Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceir yn cael eu gwerthu wrth ochr y ffordd

Ystyrir gwerthu car ar ochr y ffordd yn Abertawe fel masnachu ar y stryd ac mae'n rhaid i chi gael caniatâd cyn gwneud hynny.

Mae rhoi neu gynnig car ar werth ar ochr y ffordd heb Ganiatâd Masnachu ar y Stryd yn drosedd o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Atodlen 4 - Masnachu ar y Stryd. Os ydych yn hysbysebu'ch cerbyd yn y modd hwn heb ganiatâd gall arwain at ddirwy o £1000.

Mae hefyd yn drosedd rhoi dau gar neu fwy ar werth ar ochr y ffordd o fewn 500m i'w gilydd o dan Ddeddf Cymdogaethau Glân 2005. Os ydych yn hysbysebu'ch cerbyd yn y modd hwn heb ganiatâd gall arwain at ddirwy o £2500.

Close Dewis iaith