Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cefnogaeth i ofalwyr

Gall gofalwyr gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan nifer o sefydliadau lleol, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol a Chanolfan Gofalwyr Abertawe.

Mae gan Abertawe Ganolfan Gofalwyr sef y man galw cyntaf yn aml i ofalwyr nad ydynt yn siŵr lle i ddod o hyd i'r gefnogaeth mae ei hangen arnynt.  Mae Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) a nifer o sefydliadau sector gwirfoddol hefyd yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr.

 

Ai gofalwr ydych chi?

Oes rhywun sy'n methu ag ymdopi heb eich cymorth? Perthynas oedrannus, plentyn neu oedolyn anabl, rhywun a phroblem cyffuriau neu alcohol, rhywun ag anawsterau iechyd meddwl neu rhywun a phroblem iechyd hir dymor? Os felly, rydych yn ofalwyr, ac nid ydych ar eich pen eich hun.

Gofalwr yw rhywun sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na all ymdopi gartref heb help oherwydd salwch meddyliol neu gorfforol neu anabledd a / neu henaint. Mae'r help maent yn ei ddarparu'n ddi-dâl

Daw'r rhan fwyaf o'r help sy'n cael ei dderbyn gan bobl yn y gymdeithas sydd angen cefnogaeth oddi wrth ffrindiau neu berthnasau sy'n gweithredu fel gofalwyr. Mae llawer o'r rhain yn blant a phobl ifanc.

Fel gofalwr, mae eich gwaith yn anodd ac yn drwm iawn. Gall y pwysau corfforol ac emosiynol sy'n rhan o ofalu am rywun arall arwain at straen, ynysu a hyd yn oed salwch (meddyliol neu gorfforol). Dylid cydnabod eich anghenion chi am help a chefnogaeth hefyd.

Gall pob un o'r sefydliadau ar y dudalen hon, yn eu ffyrdd gwahanol, eich helpu yn eich rôl ofalu. Gall rhai o'r pethau maen nhw'n eu darparu gynnwys:

  • gwrando arnoch chi;
  • help i ofalu amdanoch chi;
  • gwybodaeth i'ch helpu chi gyda;
  • seibiant o'ch rôl ofalu.

Os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, gall Canolfan gofalwyr Abertawe eich helpu chi.

Ffynonellau cyngor pellach i ofalwyr

Sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig mwy o gyngor a chefnogaeth i chi.

Cerdyn argyfwng i ofalwyr

Mae'r cerdyn argyfwng i ofalwyr maint cerdyn credyd a fydd yn ffitio'n hwylus yn eich pwrs neu'ch waled a bydd yn galluogi pobl i'ch adnabod fel gofalwr yn gyflym mewn argyfwng.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.
Close Dewis iaith