Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais i gau ffordd ar gyfer digwyddiad

Cyn i chi gyflwyno cais i gau ffordd, dylech e-bostio Streetworks@abertawe.gov.uk i drafod eich cynlluniau. Gall cau ffordd fod yn broses hir felly rydym am ei wneud mor hawdd â phosib i chi wneud hyn. Bydd angen i ni sicrhau y dilynir pob agwedd ar ddiogelwch ynghylch cau ffordd.

Sut i gyflwyno cais

  • Cysylltwch â'r Is-adran Gwaith Stryd i drafod eich anghenion, trefnir cyfarfod ar y cyd rhwng pob parti â diddordeb ar y cam hwn fel arfer. Os cytunir i gau ffordd, mae'n rhaid i arwyddion gwybodaeth gael eu gosod ar y safle 7 niwrnod cyn i'r ffordd gael ei chau gan hysbysu'r cyhoedd am y dyddiad y caiff y ffordd ei chau, gan gynnwys y rheswm dros gau'r ffordd a manylion 24 awr yr ymgeisydd. Mae'n rhaid i lythyrau gael eu dosbarthu, gan hysbysu preswylwyr a rhanddeiliaid am ddyddiadau a manylion cau'r ffordd. 
     
  • Mae ymgeiswyr yn gyfrifol am godi a chynnal eu harwyddion a'u hatalfeydd eu hunain ac mae'n rhaid i Gyngor Abertawe gytuno ar y rhain cyn dechrau gwaith ar y safle. Cofiwch nad yw arwyddion na rhwystrau ar gael gan yr heddlu na Chyngor Abertawe. Gallwch eu llogi ar eich traul eich hun neu wneud eich rhai eich hun. Ceir gwybodaeth am logi arwyddion a thempledi ar y wefan Street Party (Yn agor ffenestr newydd) os hoffech chi argraffu'ch rhai eich hun.
     
  • Fel arall, mae'n rhaid i Gyngor Abertawe gytuno ar lwybrau/ddargyfeiriadau cyn i'r digwyddiad gael ei gynnal. 
     
  • Codir tâl o £290 am hysbysiadau ar gyfer pob digwyddiad. Anfonebir am yr holl ffïoedd perthnasol ar ôl cau'r ffordd. Os ydych yn cynnal parti stryd traddodiadol, ni chodir tâl os yw Cyngor Abertawe wedi cytuno ar holl fanylion cau'r ffordd.
     
  • Ar gyfer digwyddiadau mwy, bydd yr ymgeisydd yn gyfrifol am holl gostau ailgynllunio llwybrau bysus, gan ddarparu bysus ychwanegol neu safleoedd bysus dros dro, etc. Ar gyfer partïon stryd, mae'n annhebygol y rhoddir caniatâd os bydd y cynlluniau cau ffordd arfaethedig yn effeithio ar lwybrau bysus.
     
  • Ar gyfer digwyddiadau mwy, bydd y cwmni/pwyllgor sy'n trefnu'n indemnio'r cyngor yn erbyn pob gweithred, achos, hawliad ac atebolrwydd sut bynnag y maent yn codi, a bydd angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus gwerth o leiaf £5 miliwn. Mae'n rhaid cyflwyno copi cyfredol o'r dystysgrif gyda'r cais. Ni chaiff y cais ei brosesu heb dystiolaeth bod yswiriant wedi'i drefnu. Os ydych yn cynnal parti stryd traddodiadol, dylech chi drafod yr angen am yswiriant â'r Is-adran Gwaith Stryd.

 

Close Dewis iaith