Toglo gwelededd dewislen symudol

Lansio a Chofrestru Cychod a Badau ym Mhorth Einon

Cynllun cofrestru/lansio ar gyfer pob cwch/bad ag injan ym mae Porth Einon.

Bydd angen i bob bad ag injan sy'n hwylio o Borth Einon fod wedi'i gofrestru a bod ag yswiriant dilys. Bydd mynediad i'r llithrfa'n cael ei reoli gan atalfa a fydd ar glo a bydd allweddi'n cael eu rhoi i'r rhai sydd wedi cofrestru gyda'r cynllun.

Bydd y lôn fynediad a'r lle parcio i gerbydau/trelars yn cael eu rheoli gan swyddog parcio ceir ar y safle rhwng 8.30am a 4.00pm bob dydd. Lle y bo'n berthnasol, rhaid talu am barcio a lansio wrth y peiriant talu ac arddangos ar y safle.

Mae dau opsiwn ar gael i ddefnyddwyr:

1) Clwb Cychod Porth Einon

  • £60 ar gyfer aelodaeth o'r clwb
  • Sy'n cynnwys parcio cerbydau a threlar yn ddiogel ar y safle
  • Ni cheir ffïoedd ychwanegol am lansio
  • Mynediad i'r traeth drwy gât ddiogelwch
  • Gallwch gofrestru jet-sgis (niferoedd cyfyngedig)

2) Cofrestru ymlaen llaw gyda Chyngor Abertawe

  • Un ffi gofrestru o £25 (ad-daliad o £10 wrth ddychwelyd yr allwedd ddiogelwch)
  • Sticeri cofrestru unigryw ar gyfer cychod a threlars
  • £10 ffi lansio bob dydd
  • Defnyddio'r maes parcio cyhoeddus ar gyfer cerbydau a threlars £5 y dydd
  • Mynediad i'r traeth drwy gât ddiogelwch
  • Talu Ar-lein (Yn agor ffenestr newydd)

Gwneud cais i ymuno â'r cynllun

Gallwch gael ffurflenni cais ar gyfer y cynllun drwy'r dulliau canlynol:

Ffoniwch: 01792 635973 
Drwy'r post: Gosodiadau Chwaraeon, Neuadd y Ddinas, Abertawe, SA1 4PE

Gallwch gysylltu â Chlwb Cychod Porth Einon drwy ffonio 07974 955418 neu e-bostiwch porteynonbayboatclub@robpayne.net

Rhaid cofrestru pob bad/cwch ag injan hyd yn oed os ydynt yn eiddo i'r un person.

Cwblhewch y ffurflen gais berthnasol ar gyfer y cynllun o'ch dewis a'i dychwelyd ynghyd â'r ffi briodol. Mae amser gweinyddu a phrosesu'n amrywio, felly caniatewch 10 niwrnod i dderbyn eich manylion cofrestru a'ch allwedd ddiogelwch cyn ymweld â'r traeth.

Mae Rheolau a Rheoliadau defnyddio'r cychod a'r badau yn berthnasol i'r holl ddefnyddwyr, a thynnir y caniatâd yn ôl os na fyddwch yn cadw at y rheolau.

Close Dewis iaith