Toglo gwelededd dewislen symudol

Hwb ariannol ychwanegol mawr ar gyfer cynllun i wella blaenau siopau

Mae tua £3 miliwn bellach yn cael ei fuddsoddi mewn cynllun mawr i wella blaenau siopau i hybu siopa lleol ar draws Abertawe.

Shopfront

Shopfront

Oherwydd diddordeb sylweddol yn y cynllun hyd yn hyn, mae Cyngor Abertawe'n buddsoddi £1 filiwn yn ychwanegol i sicrhau y gall cannoedd yn rhagor o fusnesau elwa o bosib.

Rhagwelir buddsoddiad pellach yn y cynllun hefyd fel rhan o gronfa creu lleoedd Llywodraeth Cymru.

Derbyniwyd dros 350 o fynegiannau o ddiddordeb gan fusnesau ers i'r cynllun gael ei lansio am y tro cyntaf ym mis Mai.

Bydd y cynllun, a dargedir at fusnesau llai ac annibynnol yn y dref, yr ardal neu ganolfannau manwerthu lleol, yn cynnwys gwaith i wella golwg eiddo busnes, gan gynnwys cysgodlenni ac arwyddion.

Mae hyd at £10,000 ar gael i bob busnes fel rhan o'r cynllun, a oedd yn wreiddiol werth £300,000.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae diddordeb yn y cynllun hwn wedi bod yn sylweddol ers iddo gael ei lansio, felly mae'r cyngor bellach yn buddsoddi cyllid ychwanegol sylweddol i sicrhau y gall cymaint o fusnesau â phosib elwa ar draws Abertawe.

"Mae hyn yn rhan o becyn adfer economaidd gwerth £20 miliwn y cyngor i barhau i gefnogi ein preswylwyr a'n busnesau wrth i ni ddod allan o'r pandemig.

"Busnesau lleol yw enaid ein cymunedau. Maen nhw wedi bod ar gael i ni trwy gydol y pandemig, ac mae'r cyngor yma iddynt hefyd.

"Bydd y cynllun hwn yn ariannu gwaith i wella edrychiad busnesau ar draws y ddinas, gan helpu i annog rhagor o bobl i siopa'n lleol, felly hoffwn annog cymaint o fusnesau â phosib i fynegi diddordeb mewn elwa, fel y gellir adolygu eu ceisiadau.

"Mae dros £200,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn ychwanegu gwyrddni at gymunedau fel rhan o'r cynllun hwn i greu ardaloedd siopa mwy dymunol i breswylwyr.

"Mae'n ychwanegu at y £1.2 miliwn sydd eisoes wedi'i neilltuo gan y cyngor i ddarparu grantiau ar gyfer celfi awyr agored i fusnesau, ynghyd ag atal ffïoedd masnachu yn yr awyr agored ar gyfer mwy na 100 o eiddo."

Cyn bo hir bydd tîm cymorth busnes y cyngor mewn cysylltiad ag unrhyw fusnes sydd eisoes wedi mynegi diddordeb yn y cynllun gwella blaenau siopau.

Gofynnir i fusnesau sydd heb gyflwyno cais i gysylltu â'u cynghorwyr wardiau lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Close Dewis iaith