Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Arbenigwr i helpu busnesau Abertawe i wella'u sgiliau rhwydweithio

Ffocws yr awr nesaf o gefnogaeth benodol i fusnesau Abertawe fydd gwella sgiliau rhwydweithio.

Alan Brayley

Alan Brayley

Bydd Alan Brayley, Llywydd Clwb Busnes Bae Abertawe a Rheolwr-gyfarwyddwr AB Glass, yn cyflwyno sesiwn ar-lein am ddim i helpu busnesau i sicrhau eu bod yn defnyddio'u hamser mewn digwyddiadau rhwydweithio yn y ffordd fwyaf effeithlon posib.

Trefnwyd y sesiwn, a gynhelir drwy Microsoft Teams rhwng 10am ac 11am ddydd Iau Awst 26, gan Gyngor Abertawe wrth i'r gymdeithas ailagor yn fwy yn dilyn cyfyngiadau'r pandemig ac wrth i ddigwyddiadau rhyngweithio uniongyrchol ailddechrau o bosib.

Dyma'r awr cefnogi busnesau ddiweddaraf i'w threfnu fel rhan o ymdrechion y cyngor i helpu cymuned fusnes y ddinas adfer yn dilyn effaith COVID-19.

Meddai'r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Mae'r 18 mis diwethaf wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom yn byw ac yn gwneud busnes. Er y gall cyfarfodydd a chynadleddau dros fideo fod yn effeithiol, mae llawer o achosion - gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio - sy'n fwy defnyddiol i fusnesau pan gânt eu cynnal wyneb yn wyneb.

"Felly wrth i gymdeithas ailagor wrth i gyfyngiadau'r pandemig lacio, bydd sesiwn fel hon yn ddefnyddiol i gynrychiolwyr busnesau sydd naill ai'n anghyfarwydd â rhwydweithio neu sydd am wella'u sgiliau.

"Mae Alan yn arweinydd cryf yng nghymuned fusnes de Cymru, ac mae ganddo wybodaeth arbenigol am fusnes mewn sawl maes, gan gynnwys rhwydweithio. Dyma'r rheswm pam y byddwn yn argymell i fusnesau Abertawe gadw lle yn y digwyddiad ar-lein hwn. Bydd y gweithdy'n gryno ac yn llawn gwybodaeth."

Gall busnesau gadw lle yn y sesiwn trwy fynd i https://www.eventbrite.co.uk/e/business-swansea-support-hour-recharging-your-networking-skills-tickets-163048860531

Bydd oriau cefnogi busnesau ar-lein pellach yn dilyn yn yr wythnosau a'r misoedd dilynol. Mae oriau cefnogi diweddar wedi canolbwyntio ar themâu sy'n cynnwys cyngor cyfreithiol a syniadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.

Close Dewis iaith