Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyflwynwch gais nawr am gyfran o gyllid Men's Sheds gwerth £25,000

Gwahoddir prosiectau Men's Sheds yn Abertawe i gyflwyno cais am gyllid.

Mens Shed Cheque

Mens Shed Cheque

Unwaith eto mae Cyngor Abertawe yn cefnogi'r rhwydwaith yn y ddinas gyda chyllid grant gwerth £25,000.

Mannau cymunedol yw'r Men's Shed's lle gall pobl o bob cefndir gwrdd, sgwrsio a chymryd rhan mewn gweithgareddau os maent yn dymuno gwneud, er mwyn lleihau unigrwydd ac unigedd.

Maent yn rhan o rwydwaith sy'n ehangu o amgylch Abertawe a'r DU.

Mae ceisiadau bellach ar agor ar gyfer y cyllid newydd sydd ar gael i grwpiau sydd eisoes yn bodoli a'r rheini sydd newydd eu sefydlu ac mae'n agored i grwpiau sydd wedi cael cymorth yn y gorffennol.

Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf dyfarnwyd grantiau a oedd yn amrywio rhwng £1,000 a £7,000 i Action Shack, The Old Blacksmiths, Chop Wood Carry Water, Oguf Adullum, Summit Good, Canolfan Lles Abertawe, Gweithdy Cymunedol Abertawe, Bowls Dyfaty ac LGBT Cymru.

Mae angen cyflwyno ceisiadau ar gyfer grantiau eleni erbyn 1 Medi.

Meddai Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Gymunedau Gwell, y Cyng. Alyson Pugh, "Rwy'n aruthrol o falch bod Cyngor Abertawe, unwaith eto, yn cefnogi rhwydwaith Men's Sheds yn y ddinas.

"Maent yn cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd a lles ac wrth leihau arwahanrwydd cymdeithasol trwy ddefnyddio'r sgiliau a'r profiad sy'n bodoli yn ein cymunedau.

"Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â nifer o'r grwpiau hyn yn Abertawe i weld yr effaith drawiadol maent yn eu cael ar y rheini sy'n rhan ohonynt.

"Byddwn yn annog unrhyw grwpiau a all fod yn gymwys i gysylltu â ni, p'un a ydynt wedi eu sefydlu neu os ydynt newydd ddechrau, gan fod ein tîm Trechu Tlodi ar gael i gael sgwrs gyfeillgar ac i ddarparu cyngor ynghylch y cyfleoedd ar gyfer cefnogaeth sydd ar gael."

Gall grwpiau gysylltu â'r gwasanaeth Trechu Tlodi i gyflwyno ffurflen gais ac i drafod eu cais cyn ei gyflwyno trwy e-bostio: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith