Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet

Bydd angen i breswylwyr sydd am fynd â'u gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet gadw dyddiad a slot amser penodol o flaen llaw. Pwrpas hyn yw sicrhau y gallwn reoli lefelau traffig yn ddiogel yn ein prif ganolfan ailgylchu.

Rydym yn cynnig argaeledd i hyd at 18 cerbyd fynd i mewn i'n canolfan ailgylchu fesul slot amser. Dyrennir cyfanswm o 10 munud i bob cerbyd.

Cadarnhewch eich manylion cyfeiriad isod cyn archebu slot. Mae canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Llansamlet ar agor i breswylwyr Cyngor Abertawe yn unig. Gofynnir i chi ddangos prawf o'ch cyfeiriad wrth i chi gyrraedd.

Close Dewis iaith