Ni fydd y sgipiau pren ar gael yng Nghanolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref Penlan, Tir John neu Garngoch o 21 Ionawr 2019. Gall gwastraff pren gael ei ailgylchu yn CAGC Llansamlet o hyd.
Bydd hyn yn ein galluogi i fonitro a gwahanu graddau gwahanol o bren er mwyn gwella ailgylchu/triniaeth gwastraff pren yn dilyn craffu manwl gan reoleiddwyr a Llywodraeth Cymru dros y misoedd diwethaf.
Diolch am eich cydweithrediad.
Bydd y sgip gwastraff nad oes modd ei ailgylchu yn safle Garngoch hefyd yn cael ei symud ar y dyddiad hwn (21 Ionawr).

Safleoedd ailgylchu
Mae sawl lleoliad gwahanol ar draws Abertawe lle gellir ailgylchu amrywiaeth o eitemau.
Mae gan ein 5 canolfannau ailgylchu gwastraff cartref gyfleusterau i ailgylchu a chael gwared ar wastraff cartref yn rhad ac am ddim. Nid ydynt yn gallu derbyn gwastraff masnachu, masnachol, adeiladu na dymchwel.
Mae'r tablau isod yn dangos yr hyn y gallwch ei ailgylchu yn eich ardal.
Bydd y canolfannau ailgylchu gwastraff cartref ar gau brynhawn Noswyl Nadolig (o 1.00pm), Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan yn unig.
Ceir gwybodaeth am ein holl safleoedd, gan gynnwys oriau agor, ar ein tudalen Defnyddio'r safleoedd ailgylchu.
Canolfannau ailgylchu gwastraff cartref
Deunydd cartref | Llansamlet | Clun | Garngoch | Penlan | Tir John |
---|---|---|---|---|---|
Batris - car | Y | N | N | N | N |
Batris - cartref | Y | N | Y | Y | Y |
Bwyd - bwyd y tu hwnt i'r dyddiad defnyddio o'r cwpwrdd/bwyd o rewgell sydd wedi torri i lawr yn ei becynnau gwreiddiol (ni dderbynnir tuniau neu wydr) | Y | N | N | N | N |
Caniau | Y | Y | Y | Y | Y |
Cardbord | Y | Y | Y | Y | Y |
Carpedi | Y | Y | N | N | Y |
Cartonau (Tetra Paks) + cwpanau papur | Y | Y | Y | Y | Y |
Cemegau cartref | Y | Y | Y | Y | Y |
Cerameg | Y | Y | Y | Y | Y |
Cewynnau | Y | Y | Y | Y | Y |
Dillad / tecstilau (dim duvets, gobenyddion na chlustogau) | Y | Y | Y | Y | Y |
Dodrefn | Y | N | N | N | N |
Eitemau y gellir eu hailddefnyddio, gan gynnwys dodrefn, eitemau trydanol a.y.y.b. | Y | Y | Y | Y | Y |
Esgidiau | Y | Y | Y | Y | Y |
Ffoil alwminiwm | Y | Y | Y | Y | Y |
Gwastraff bwyd | Y | Y | Y | Y | Y |
Gwastraff gardd | Y | Y | Y | Y | Y |
Gwydr ffenestri / gwydr plât | Y | N | N | N | Y |
Gwydr (poteli a jariau) | Y | Y | Y | Y | Y |
Llyfrau | Y | Y | N | N | N |
Matresi | Y | Y | N | N | Y |
Metel sgrap | Y | Y | Y | Y | Y |
Nwyddau trydanol | Y | Y | Y | Y | Y |
Oergelloedd / rhewgelloedd | Y | N | N | N | Y |
Olew coginio | Y | Y | Y | Y | Y |
Olew peiriant | Y | Y | Y | Y | Y |
Paent | Y | Y | Y | Y | Y |
Papur | Y | Y | Y | Y | Y |
Peiriannau cartref mawr | Y | Y | N | N | Y |
Plastig - mawr e.e. dodrefn | Y | Y | Y | Y | Y |
Plastig (sachau pinc) | Y | Y | Y | Y | Y |
Polystyren | Y | Y | Y | Y | Y |
Poteli nwy | Y | Y | Y | Y | Y |
Pren | Y | N | Y | Y | Y |
Pren (arall e.e. MDF, lloriau laminedig, drysau gwag) | Y | N | N | N | N |
Pridd | Y | Y | Y | Y | Y |
Rwbel | Y | Y | Y | Y | Y |
Setiau teledu a monitorau | Y | Y | Y | Y | Y |
Tiwbiau fflworoleuol | Y | Y | N | N | N |
Gwastraff cartref (na ellir ei ailgylchu) | Y | Y | N | N | N |
Compost am ddim ar gael i'r cyhoedd | N | N | N | N | Y |
Cyfyngiad taldra 2m | N | N | Y | Y | Y |
Trwyddedau ar gyfer defnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
Safleoedd ailgylchu banc cyflwyno
Safle | Gwydr a caniau | Tecstilau a esgidiau | Papur | Llyfrau | Cartonau |
---|---|---|---|---|---|
Asda, Llansamlet | Y | Y | N | Y | N |
Safle ailgylchu maes parcio Bae Caswell | Y | N | N | N | N |
Safle ailgylchu maes parcio Stryd Paxton | N | Y | N | Y | N |
Safle ailgylchu Canolfan Hamdden Penyrheol | N | Y | N | N | N |
Safle ailgylchu maes parcio'r Chwarel | N | Y | N | Y | N |
Safle ailgylchu maes parcio Sainsbury's | Y | Y | N | Y | Y |
Safle ailgylchu maes parcio Lôn Sgeti | N | Y | N | Y | N |
Safle ailgylchu maes parcio Stryd y Dŵr | Y | Y | N | N | N |
Safle ailgylchu maes parcio Maes Chwarae West End | Y | N | N | N | N |
Defnyddio'r safleoedd ailgylchu
Mae ein safleoedd ailgylchu ar gael i'ch helpu i waredu eich gwastraff cartref.
Trwyddedau ar gyfer defnyddio CAGC
Os ydych am ddefnyddio fan neu drelar i ddod â gwastraff o'ch cartref i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref (CAGC), mae angen i chi gael trwydded.
Gwirio a oes angen trwydded CAGC arnoch
Defnyddiwch ein tabl i wirio a oes angen trwydded ar gyfer eich cerbyd er mwyn defnyddio'r CAGC.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet
Clos Ferryboat, Parc Menter Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA6 8QN.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref y Clun
Heol Derwen Fawr, Sgeti, Abertawe, SA2 8DU.
Canolfan Ailgylchu Garngoch
Ffordd y Ffenics, Gorseinon, Abertawe, SA4 9WF.
Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Penlan
Heol Gwyrosydd, Penlan, Abertawe, SA5 7BS.
Canolfan Ailgylchu Tir John
Heol Danygraig, St Thomas, Abertawe, SA1 8NS.