Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet
Clos Ferryboat, Parc Menter Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA6 8QN.
Oriau agor ar Canolfan Ailgychu Llansamlet: 7 niwrnod yr wythnos, 8.30am - 5.00pm (ar gau o 1.00pm ar Noswyl Nadolig a thrwy'r dydd ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).
- Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Llansamlet
- Cyn mynd â phren i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet, gwiriwch yr hyn na ellir ei ailgylchu
- Trysorau'r Tip - Siopa Ailddenfyddio
- Cyrraedd y ganolfan
- Yr hyn a dderbynnir ym mhob canolfan ailgylchu
- Rheolau safle'r canolfannau ailgylchu
- Pa fath o gerbydau a ganiateir yn y canolfannau ailgylchu?
Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Llansamlet
Bydd angen i breswylwyr sydd am fynd â'u gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet gadw dyddiad a slot amser penodol o flaen llaw (Yn agor ffenestr newydd). Pwrpas hyn yw sicrhau y gallwn reoli lefelau traffig yn ddiogel yn ein prif ganolfan ailgylchu.
Sylwer nad oes angen cyfrif MiPermit arnoch ac nid oes angen i chi fewngofnodi i gyfrif i ddefnyddio'r gwasanaeth archebu ar-lein. Sgroliwch i lawr ar y tudalennau canlynol er mwyn 'Creu Archeb Canolfan Ailgylchu' a nodwch y manylion y gofynnwyd amdanynt.
Cadw slot yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet Cadw slot yng Nghanolfan Ailgylchu Llansamlet
- Cyn trefnu dyddiad neu ymweld ag unrhyw un o'n safleoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen rheolau llawn y safle.
- Gall trigolion Dinas a Sir Abertawe archebu ymweliad yn UNIG. Gwrthodir mynediad i'r safle hwn a'n safleoedd eraill i'r rhai sy'n byw y tu allan i ardal y sir.
- Gall preswylwyr na allant ddefnyddio'r dudalen we archebu dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01792 635600.
- Ni ddylech ddefnyddio rhif cofrestru'ch cerbyd i drefnu ymweliadau yn erbyn gwahanol gyfeiriadau. Adnabyddir hyn, ac efallai y gwrthodir mynediad i chi, neu caiff eich slot ei ganslo.
- Peidiwch â chyrraedd ar y safle nes 5 munud cyn eich slot amser.
- Dewch â'ch e-bost cadarnhau a phrawf eich bod yn byw yn Abertawe i ddangos i staff y safle pan fyddwch yn cyrraedd. Gofynnir i yrwyr cerbydau y mae angen hawlenni ar eu cyfer am yr hawlen cerbyd felen.
- Rhoddir uchafswm o 10 munud i bob cerbyd ddadlwytho ar y safle yn ystod pob ymweliad.
- Cwestiynau cyffredin am gadw lle yn y ganolfan ailgylchu
- Cadw slot yn y ganolfan ailgylchu - arweiniad cam wrth gam