Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet
Clos Ferryboat, Parc Menter Abertawe, Llansamlet, Abertawe, SA6 8QN.
Oriau agor ar Canolfan Ailgychu Llansamlet: 7 niwrnod yr wythnos, 8.30am - 5.00pm (ar gau o 1.00pm ar Noswyl Nadolig a thrwy'r dydd ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan).
- Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Llansamlet
- Yr hyn y gellir ei ailgylchu yn Llansamlet
- Trysorau'r Tip - Siopa Ailddenfyddio
- Cyrraedd y ganolfan
- Rheolau safle'r canolfannau ailgylchu
- Pa fath o gerbydau a ganiateir yn y canolfannau ailgylchu?
Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Llansamlet
Bydd angen i breswylwyr sydd am fynd â'u gwastraff i Ganolfan Ailgylchu Llansamlet gadw dyddiad a slot amser penodol o flaen llaw. Pwrpas hyn yw sicrhau y gallwn reoli lefelau traffig yn ddiogel yn ein prif ganolfan ailgylchu.
Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet Cadw slot i ymweld â chanolfan ailgylchu Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Llansamlet
- Cyn trefnu dyddiad neu ymweld ag unrhyw un o'n safleoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen rheolau llawn y safle.
- Gall trigolion Dinas a Sir Abertawe archebu ymweliad yn UNIG. Gwrthodir mynediad i'r safle hwn a'n safleoedd eraill i'r rhai sy'n byw y tu allan i ardal y sir.
- Gall preswylwyr na allant ddefnyddio'r dudalen we archebu dros y ffôn yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener ar 01792 635600.
- Ni ddylech ddefnyddio rhif cofrestru'ch cerbyd i drefnu ymweliadau yn erbyn gwahanol gyfeiriadau. Adnabyddir hyn, ac efallai y gwrthodir mynediad i chi, neu caiff eich slot ei ganslo.
- Peidiwch â chyrraedd mwy na 5 munud cyn eich slot amser trefnedig neu fwy na 10 munud ar ôl i'ch slot gychwyn oherwydd efallai na chewch chi fynd i mewn.
- Dewch â'ch e-bost cadarnhau a phrawf eich bod yn byw yn Abertawe i ddangos i staff y safle pan fyddwch yn cyrraedd. Gofynnir i yrwyr cerbydau y mae angen hawlenni ar eu cyfer am yr hawlen cerbyd felen.
- Rhoddir uchafswm o 10 munud i bob cerbyd ddadlwytho ar y safle yn ystod pob ymweliad.
- Cwestiynau cyffredin am gadw lle yn y ganolfan ailgylchu
- Cadw slot yn y ganolfan ailgylchu - arweiniad cam wrth gam
Yr hyn y gellir ei ailgylchu yn Llansamlet
- Batris - car
- Batris - cartref
- Bulbiau golau a tiwbiau fflworoleuol
- Bwyd - bwyd y tu hwnt i'r dyddiad defnyddio o'r cwpwrdd / bwyd o rewgell sydd wedi torri i lawr yn ei becynnau gwreiddiol (ni dderbynnir tuniau neu wydr)
- Caniau
- Cardbord
- Carpedi
- Cartonau (Tetra Paks), cwpanau papur a tiwbiau Pringles
- Cemegau cartref
- Cerameg
- Cewynnau
- Dillad / tecstilau (dim duvets, gobenyddion na chlustogau)
- Dodrefn
- Eitemau y gellir eu hailddefnyddio, gan gynnwys eitemau trydanol, nwyddau cartref a bric a brac
- Esgidiau (clymwch at ei gilydd)
- Ffoil alwminiwm
- Gwastraff bwyd
- Gwastraff gardd
- Gwydr (ffenestri / gwydr plât)
- Gwydr (poteli a jariau)
- Matresi (sbring yn unig - mathau eraill yn wastraff cyffredinol)
- Metel sgrap
- Nwyddau trydanol
- Oergelloedd / rhewgelloedd
- Olew coginio
- Olew peiriant
- Paent
- Papur
- Peiriannau cartref mawr ee poptai, peiriannau golchi a sychu dillad / llestri
- Plastig - mawr e.e. dodrefn
- Plastig (sachau pinc)
- Polystyren
- Poteli nwy
- Pren (gan gynnwys MDF, lloriau laminedig, drysau gwag) - gweler isod
- Pridd
- Rwbel
- Sachau du a gwastraff cartref (na ellir ei ailgylchu) - ni dderbynir unrhyw bagiau sy'n cynnwys eitemau ailgylchadwy ac caniateir dim ond didoli cyfyngedig ar y safle.
- Setiau teledu a monitorau
NI dderbynnir y mathau canlynol o bren gan eu bod yn cael eu hystyried fel gwastraff peryglus a dylid cael gwared arnynt mewn cyfleusterau sy'n derbyn gwastraff peryglus:
- trawstiau rheilffordd
- pren gwastraff o'r dociau, lloriau bloc, cychod, cerbydau neu ôl-gerbydau
- pren gwastraff wedi'i drin â chreosot