Y diweddaraf am coronafeirws a chasgliadau gwastraff
Siop ailgylchu Trysorau'r Tip: ar gau nes clywir yn wahanol.
Bydd nifer gyfyngedig o eitemau y gellir eu hailddefnyddio ar gael i'w prynu ar-lein tra bydd y siop ar gau i ymwelwyr.

Siopa Ailddenfyddio - Trysorau'r Tip
Prynwch hwy neu dewch â hwy, ond peidiwch â'u taflu yn y bin!
Mae'r holl eitemau a werthir yn ein siop wedi'u dargyfeirio o'r llif gwastraff a defnyddir yr incwm a gaiff ei greu i ariannu a datblygu'r prosiect ymhellach. Trwy werthu'r eitemau hyn i'w hailddefnyddio rydym yn lleihau swm y gwastraff sy'n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi'n sylweddol, ac yn helpu i gefnogi cymunedau a phreswylwyr lleol sy'n elwa o werthu'r eitemau cost isel.
Os oes angen i chi gael gwared ar eitemau cartref sy'n rhy dda i'w tipio, cyflwynwch hwy i'r siop yn uniongyrchol neu ewch â hwy i unrhyw un o'n 5 canolfan ailgylchu gwastraff cartref.
Mae'r eitemau sydd ar gael i'w gwerthu ac sy'n cael eu derbyn yn cynnwys:
Nwyddau trydanol - i gyd yn gweithio ac wedi cael prawf diogelwch
- Setiau teledu sgrîn wastad
- Peiriannau chwarae cerddoriaeth
- Nwyddau gwyn
- Sugnwyr llwch
- Goleuadau
- Consolau gemau
- Offer pŵer
Celfi
- Byrddau
- Cadeiriau
- Soffas a chadeiriau esmwyth
- Silffoedd
- Cabinetau, cistiau a chyfarpar storio arall
Nwyddau cartref
- Printiau cynfas
- Crochenwaith
- Addurniadau
- Drychau
Arall
- DVDs, CDs a gemau cyfrifiadur
- Teganau
- Recordiau finyl
- Dillad a gemwaith
- Cyfarpar gardd
- Cyfarpar ymarfer corff a chwaraeon
- Beiciau
- Offerynnau cerdd
...a llawer mwy!
Oriau agor
Dydd Llun - dydd Sul, 9.30am - 4.30pm
Ar gau ar wyliau banc.
Sut i ddod o hyd i ni
Rydym yn Safle Ailgylchu Cymunedol Llansamlet, Clôs Ferryboat, Parc Menter Abertawe, Llansamlet, Abertawe SA6 8QN.
Os bydd angen i gerddwyr fynd i'r siop, dylent fynd i swyddfa'r Safle Byrnu'n gyntaf.