Toglo gwelededd dewislen symudol

Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n dychwelyd - 11-12 Hydref 2025

Mae lleoliadau ledled y ddinas yn paratoi i gyflwyno penwythnos gwych o ddiwylliant am ddim, gan gynnwys dau o'r lleisiau creadigol mwyaf dylanwadol yng Nghymru.

michael sheen swansea arts fest 2025

michael sheen swansea arts fest 2025
 
russell T davies

Yn dilyn llwyddiant Penwythnos Celfyddydau Abertawe pan gafodd ei gynnal am y tro cyntaf y llynedd, bydd Cyngor Abertawe'n dathlu diwylliant dros ddeuddydd drwy groesawu artistiaid, perfformwyr a phobl greadigol o fri rhyngwladol i'r ddinas.

O 11 i 12 Hydref 2025, bydd cyfle i fwynhau penwythnos llawn diwylliant bywiog a fydd yn cynnwys cerddoriaeth, gweithdai, celfyddydau gweledol a pherfformiadau byw. Cynigir y cymysgedd dynamig hwn o raglenni i bawb am ddim. Bydd arddangosfeydd pryfoclyd a gweithdai gafaelgar y gellir cadw lle ynddynt ar gael i blant ac oedolion - bydd rhywbeth at ddant pawb.

Mae'r uchafbwyntiau eleni'n cynnwys perfformiad personol 90 munud o hyd gyda Michael Sheen, yr actor clodwiw a seren Good Omens, a'r canwr-gyfansoddwr Martyn Joseph, yn ogystal â sgwrs â Russell T Davies OBE, awdur a chynhyrchydd enwog Doctor Who ac It's a Sin. Caiff tocynnau ar gyfer y ddau ddigwyddiad am ddim hyn eu rhyddhau gyda'r hwyr ar 1 Hydref drwy croesobaeabertawe.com

Bydd y rhestr anhygoel hefyd yn cynnwys y seren reggae Aleighcia Scott, a fydd yn perfformio ar y Llwyfan Cerddoriaeth, a'r artist o fri rhyngwladol Luke Jerram, a fydd yn creu cyffro gyda'i osodwaith mawr Helios. Bydd yr ŵyl hefyd yn amlygu doniau rhyngwladol, gan gynnwys Doris Graf, artist o'r Almaen; Ifemelumma Nweri, dawnsiwr Igbo a aned yn Nigeria; a'r artistiaid cyfryngau newydd Limbic Cinema.

Meddai'r Cynghorydd Elliott King, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb:

"Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad pan gafodd ei gynnal am y tro cyntaf y llynedd, rwy'n falch o weld Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n dychwelyd gan iddo arddangos gwaith cymuned greadigol ffyniannus Abertawe, ochr yn ochr ag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol.

"Rydym yn falch bod dau o'n henwogion lleol, Russell T Davies a Michael Sheen, yn cefnogi'r ŵyl eleni. Mae gan Abertawe lu o bobl dalentog a chasgliad o leoliadau diwylliannol bywiog, gan gynnwys orielau, mannau digwyddiadau, theatrau a lleoliadau awyr agored a fydd yn arddangos gwaith cyffrous ac yn cynnal perfformiadau.

"Yn ogystal â dathlu'r celfyddydau, mae Penwythnos Celfyddydau Abertawe'n dathlu'r doniau amrywiol a'r creadigrwydd sy'n gwneud ein dinas yn unigryw."

Cewch ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau Penwythnos Celfyddydau Abertawe a chyfle i gofrestru ar gyfer gweithdai yma.

 

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 30 Medi 2025