Toglo gwelededd dewislen symudol

Addysg ddewisol yn y cartref - asesu effeithlonrwydd yr addysg a ddarperir gan y rhiant

Wrth ystyried darpariaeth addysg y rhieni, efallai bydd yr ALI yn disgwyl i'r ddarpariaeth gynnwys y nodweddion canlynol.

 

  • eang - dylai'r addysg gyflwyno'r disgyblion i amrywiaeth eang o wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau
  • cytbwys - dylid dyrannu amser digonol i bob rhan o'r addysg er mwyn iddi wneud ei chyfraniad arbennig, ond nid fel ei bod yn tanseilio rhannau hanfodol eraill o'r dysgu
  • perthnasol - Dylid addysgu pynciau er mwyn iddynt gael eu defnyddio ar gyfer profiadau personol y disgybl ac yn ei fywyd fel oedolyn, gan rhoi pwyslais digonol ar agweddau ymarferol
  • gwahaniaethol - mae angen i'r hyn sy'n cael ei addysgu, a'r ffordd y mae'n cael ei addysgu, gyd-fynd a galluoedd a dawn y plentyn.

Mae cwricwlwm da hefyd yn cynnwys agweddau eraill ar lefel addas megis addysg bersonol a chymdeithasol, addysg iechyd, addysg awyr agored ac amgylcheddol, dinasyddiaeth, gyrfaoedd, technoleg bwyd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Cyfleoedd i gymysgu a chysylltu a phlant eraill ac oedolion yr ystyrir eu bod yn bwysig i ddatblygiad personol a chymdeithasol plentyn.