Toglo gwelededd dewislen symudol

Hyfforddiant i yrwyr beiciau modur

Manylion cyrsiau diogelwch ffyrdd i feicwyr modur.

BikeSafe

Menter beiciau modur genedlaethol a gynhelir gan yr heddlu yw BikeSafe sydd â'r nod o weithio gyda beicwyr modur mewn amgylchedd hamddenol i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a gwerth mynd ymlaen i gyflawni hyfforddiant achrededig ar ôl y prawf.

Mae gweithdai BikeSafe yn cynnwys taith wedi'i harsylwi gan feiciwr modur o'r heddlu neu arsylwr cymeradwy BikeSafe.

Gydag ychydig o amrywiaeth lleol, bwriad gweithdai BikeSafe yw ymdrin â'r canlynol: agwedd y gyrrwr, dulliau systematig, achosiad gwrthdrawiadau, cornelu, lleoliad, goddiweddyd, arsylwi, brecio, sylwi ar beryglon a defnyddio gerau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau gweithdai a gynhelir yn Abertawe ac i gadw lle, ewch i www.bikesafe.co.uk/southwales/workshops (Yn agor ffenestr newydd) a nodwch y côd taleb SWAN 24 ar gyfer lle â chymhorthdal llawn (am ddim). Mae lleoedd yn brin.


Biker Down

'Biker Down' yw ymateb Gwasanaethau Tân ac Achub y DU i bryder diogelwch a nodwydd ymhlith defyddwyr beiciau modur.

Ceir 3 modiwl dros sesiwn 3 awr:

  1. Rheoli lleoliad damwain
  2. Cymorth cyntaf
  3. Gwyddor cael eich gweld

Y syniad yw bod pobl yn cael cynnig y cyfle i hyfforddi mewn sgiliau bywyd hanfodol a chael yr wybodaeth i'w helpu i ymdopi petaent yn dod ar draws gwrthdrawiad traffig ffyrdd neu mewn gwrthdrawiad o'r fath.

Mae'r cwrs AM DDIM.

Argaeledd y cwrs

Bydd Swyddogion Tân Gweithredol a Thîm Diogelwch Ffyrdd y Cyngor yn cynnal cwrs:

Ddydd Mawrth 19 Tachwedd 6.00pm yng Ngorsaf Dân Gorseinon, Abertawe.

I gadw lle neu i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch: diogelwch.ffyrdd@abertawe.gov.uk

 

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y cyrsiau reidio beic modur sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, cysylltwch â ni.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Hydref 2024