Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth yw'r broses graffu?

Trefnir gwaith cyffredin tîm Craffu Abertawe gan Bwyllgor Rhaglen Graffu'r cyngor. Maent yn trefnu ac yn rheoli'r hyn y bydd Craffu'n edrych arno bob blwyddyn.

Bydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu'n trafod materion gwahanol. Mae'r Pwyllgor fel arfer yn cwrdd bob mis a bydd yn aml yn cynnal sesiynau trafod gydag Aelodau'r Cabinet am gyfrifoldebau eu portffolio. Gall aelodau'r cyhoedd hefyd gyfrannu syniadau at y sesiynau hyn. Dosberthir cylchlythyr Craffu bob mis, y gallwch danysgrifio ar ei gyfer yma (Yn agor ffenestr newydd), fel y gallwch gael eich hysbysu ynghylch y sesiynau hyn.

Gwneir yr holl waith arall gan Gynghorwyr Craffu trwy wneud amrywiaeth o weithgareddau eraill:

  • Paneli Craffu Perfformiad. Mae'r rhain yn cwrdd yn rheolaidd ac yn edrych ar berfformiad meysydd penodol, er enghraifft, gwasanaethau cymdeithasol, addysg, cyllidebau.
  • Paneli Ymchwilio Craffu. Maent yn edrych ar un pwnc yn fanwl am 6 i 9 mis. Byddant yn datblygu adroddiad gyda thystiolaeth a syniadau ar gyfer yr Aelod Cabinet perthnasol.
  • Gweithgorau Craffu. Cyfarfodydd untro sy'n edrych ar fater sy'n peri pryder ac yn datblygu sylwadau a syniadau.

Mae gan bob grŵp gynullydd sy'n cadeirio cyfarfodydd ac yn ymgysylltu ag Aelodau'r Cabinet. Byddant yn gofyn cwestiynau, yn rhoi barn ac yn gwneud argymhellion.

Close Dewis iaith