
Craffu
Yn yr adran hon, cewch yr holl wybodaeth mae ei hangen arnoch am craffu yn Abertawe.
Darperir y swyddogaeth trosolwg a chraffu trwy Bwyllgor y Rhaglen Graffu ynghyd â nifer o Baneli Ymchwilio a Pherfformiad Craffu. Yn ogystal, gellir gweld rhestrau misol o gyfarfodydd a manylion am gyfarfodydd a gwaith craffu ar y blog craffuYn agor mewn ffenest newydd.
Prif nod craffu yw gweithredu fel 'cyfaill beirniadol' y Cabinet a phobl eraill sy'n gwneud penderfyniadau, er mwyn hyrwyddo gwell gwasanaethau, polisïau a phenderfyniadau. Mae craffu'n debyg i waith pwyllgorau dethol San Steffan ac mae ei aelodau'n dod o blith cynghorwyr nad ydynt yn rhan o'r Cabinet.
Mae craffu'n gwneud gwahaniaeth drwy sicrhau bod proses gwneud penderfyniadau lleol yn well, bod gwasanaethau'n cael eu gwella a democratiaeth leol yn cael ei chryfhau.
Ewch i'r adrannau perthnasol isod am fwy o wybodaeth:
Llyfrgell Adroddiadau Craffu
Croeso i'r llyfrgell adroddiadau craffu. Yma dewch o hyd i ddetholiad o adroddiadau craffu.
Tudalen Cyhoeddiadau wedi'u Harchifo 2014 - 2017
Dyma'r dudalen cyhoeddiadau wedi'u harchifo a oedd ar gael o 2014 tan 2017.
Beth yw'r broses graffu?
Mae gan Bwyllgor y Rhaglen Graffu rôl trawsbynciol a chydlynu o safbwynt gwaith y byrddau craffu, a throsolwg o graffu ar draws y wlad.
Ydych chi'n gweithio gyda chraffu?
Os gofynnwyd i chi roi tystiolaeth i Bwyllgor y Rhaglen Graffu neu un o'r paneli neu os ydych wedi'ch cyfethol ar banel, yna bydd y dudalen hon yn rhoi'r wybodaeth berthnasol i chi.
Ar beth y mae craffu'n gweithio ar hyn o bryd?
Mwy o wybodaeth am yr hyn y mae craffu'n ei wneud
Hoffech chi godi mater gyda chraffu?
Mae gan bawb sy'n byw neu sy'n gweithio yn Ninas a Sir Abertawe yr hawl i gyflwyno cais am graffu ar faterion o bwys lleol.