Toglo gwelededd dewislen symudol

Biniau barbeciw ar draethau

Er mwyn gwaredu barbeciwiau'n ddiogel, gan gynnwys glo poeth, mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno biniau gwrth-dân ar draethau sy'n boblogaidd ar gyfer cael barbeciw.

Mae traethau'n lleoedd gwych i ymlacio, bwyta a chael hwyl trwy'r dydd, ond mae gwastraff o farbeciwiau un tro a chyffredin yn gallu bod yn risg iechyd i blant yn benodol.

Er mwyn gwaredu barbeciwiau'n ddiogel, gan gynnwys glo poeth, mae Cyngor Abertawe wedi cyflwyno biniau gwrth-dân ar draethau sy'n boblogaidd ar gyfer cael barbeciw.

Traethau â biniau barbeciw:

  • Bae Caswell
  • Langland
  • Rotherslade
  • Bae Abertawe, ger The Secret Bar and Kitchen

Darperir y biniau er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gwared ar lo poeth a gwastraff barbeciwiau, a fydd yn helpu i leihau'r risg o ddamweiniau sy'n gysylltiedig â barbeciwiau tafladwy'n benodol, gan gynnwys llosgiadau gan lo poeth sydd wedi'i gladdu o dan arwyneb y tywod.

Cofiwch:

  • gwlychwch y barbeciw â dŵr oer pan fyddwch wedi gorffen, gan sicrhau bod y tân wedi'i ddiffodd a bod y glo'n oer.
  • taflwch y barbeciw a/neu'r glo yn y biniau barbeciw a ddarperir. Peidiwch â rhoi'r barbeciwiau neu'r glo mewn unrhyw fin arall.
  • taflwch unrhyw wastraff arall yn y biniau sbwriel a ddarperir.
  • NI chaniateir tân agored ar y traeth neu yn yr ardal gyfagos.
  • peidiwch â dod â photeli gwydr i'r traeth.
Close Dewis iaith