Toglo gwelededd dewislen symudol

Ymgynghoriad ar gyllideb y cyngor i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd

Mae Cabinet Cyngor Abertawe wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ar raglen o fuddsoddiad a fydd yn cynnwys gwario £1.9 miliwn y dydd ar gyfartaledd ar wasanaethau'r cyngor y flwyddyn nesaf.

Swansea at night

Er bod gwasanaethau'r cyngor yn wynebu pwysau ynni a chwyddiant anferth gwerth cyfanswm o £44m a thoriad mewn termau go iawn i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyngor yn bwriadu gwario miliynau o bunnoedd yn rhagor ar wasanaethau fel addysg, gofal a gwasanaethau cymunedol y mae'r cyngor yn eu darparu bob dydd.

Yn ystod cyfarfod y Cabinet ddoe, cytunwyd ar y cynigion ar gyfer cyllideb 2023/24 a fydd yn destun ymgynghoriad o 3 Ionawr. Wedi hynny bydd adroddiad pellach yn dod yn ôl i'r Cabinet cyn iddo gyflwyno'i gynigion terfynol i'r cyngor llawn ym mis Mawrth.

Bydd Abertawe'n derbyn tua £30m mewn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru'r flwyddyn nesaf - cynnydd o 7% - a fydd yn helpu i gynnal gwasanaethau dros y flwyddyn sydd i ddod.

Fodd bynnag, gyda biliau ynni'r cyngor yn codi 300%, chwyddiant yn fwy na 10% a galw cynyddol am wasanaethau'r cyngor o ganlyniad i'r argyfwng costau byw mae pwysau ar gyllid y cyngor.

Meddai Arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, "Rydym am glywed gan bobl Abertawe am y cynigion cyllidebol cychwynnol. Nid ydym wedi gwneud unrhyw benderfyniadau ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau nes ein bod ni wedi ystyried barn preswylwyr, undebau llafur, ysgolion a busnesau a phobl eraill."

Dywedodd y Cyng. Stewart fod y cyngor dros y blynyddoedd diwethaf ac yn ystod y pandemig wedi cymryd ymagwedd ochelgar at reolaeth ariannol a oedd wedi amddiffyn swyddi a gwasanaethau, gan ganiatáu i'r cyngor ychwanegu at ei gronfeydd wrth gefn. Mae hyn wedi helpu gyda'r problemau economaidd a brofwyd dros y misoedd diwethaf a bydd yn helpu'r flwyddyn nesaf hefyd.

Close Dewis iaith