Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla ar-lein

Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud cais am drwydded safle carafanau neu wersylla. Nid oes unrhyw ffi i'w thalu ar gyfer y drwydded hon.

Fel rhan o'r ffurflen bydd angen i chi ddarparu cyfeirnod map Arolwg Ordnans ar gyfer lleoliad y safle. Bydd hwn yn dechrau gyda SS neu SN ar gyfer lleoliadau ar draws y wlad, e.e. SS51892. Gallwch chwilio am eich lleoliad ar wefan y mapiau Arolwg Ordnans (Yn agor ffenestr newydd).

Bydd angen i chi hefyd lanlwytho copi o gynllun wrth raddfa ar gyfer y safle.Dylai'r cynllun ddangos ffiniau'r safle, lleoliad y lleiniau carafanau a/neu bebyll a manylion yr holl gyfleusterau (gan wahaniaethu rhwng cyfleusterau presennol ac arfaethedig). Sicrhewch eich bod yn cadw copi o'r cynllun hwn ar eich cyfrifiadur neu'ch dyfais symudol cyn i chi lenwi'r ffurflen hon.

Os oes caniatâd cynllunio ar gyfer y safle, bydd angen i chi wybod y cyfeirnod cynllunio.