Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllawiau gwarchodwyr ar gyfer rhieni sy'n gwarchod eu plentyn eu hunain

Gwybodaeth i rieni sy'n gwarchod eu plant pan fyddant wedi'u trwyddedu ar gyfer perfformiadau.

Rheoliadau Plant (Perfformiadau a Gweithgareddau) (Cymru) 2015

Mae nifer o blant yn perfformio ar lwyfan, ar y teledu, mewn ffilmiau, mewn hysbysebion, a hefyd yn gweithio fel modelau neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon a thâl.

Mae'n rhaid i'r plant hyn gael trwydded dan yr amgylchiadau canlynol:

  • maent yn cael eu talu; NEU
  • mae angen absenoldeb o'r ysgol arnynt; NEU
  • byddant yn perfformio am fwy na phedwar diwrnod mewn cyfnod o chwe mis (mae pob perfformiad yn cyfrif tuag at y pedwar diwrnod hwn).

Rhaid i blant sy'n perfformio dan drwydded gael eu goruchwylio ar bob adeg gan naill ai riant neu warchodwr a thrwydded a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol. Os nad ydych chi'n warchodwr a thrwydded gyda'r awdurdod lleol, ni chewch fod yn warchodwr ar gyfer unrhyw blentyn arall heblaw am eich plentyn eich hun.

Fel rhiant sy'n gwarchod eich plentyn eich hun mae'n bwysig eich bod yn ymwybodol o'r canlynol:

  • Wrth gyrraedd lleoliad y perfformiad, rhaid darganfod i bwy y dylech gyflwyno'ch hunain, a llofnodi'ch hunan a'ch plentyn i mewn neu allan wrth gyrraedd a gadael. Anfonir taflenni cofnodi dyddiol at y cwmni cynhyrchu at y diben hwn a dylech ofyn am gopi i'w lenwi ar gyfer eich plentyn neu sicrhewch fod yr wybodaeth hon yn cael ei chofnodi gan rywun yn y cwmni cynhyrchu. Dylai'r manylion a gofnodir gynnwys: amser cyrraedd; perfformio; egwyl a gadael.
  • Gofynnwch am enw'r person y dylech chi siarad a nhw os bydd gennych unrhyw broblemau neu bryderon.
  • Mae'n rhaid i chi fod gyda'ch plentyn ar bob adeg ac aros yn lleoliad y perfformiad am yr holl gyfnod y mae'ch plentyn yno. Mae hyn yn cynnwys eu tywys i'r ty bach a'u tywys i ochrau'r llwyfan ar gyfer perfformiadau theatr ac i'r set ac oddi yno ar gyfer ffilmio. Dyma arfer da derbyniol.
  • Sicrhewch eich bod yn ymwybodol o'r gweithdrefnau dianc rhag tan a lleoliad y person cymorth cyntaf dynodedig.
  • Bydd angen i'ch plentyn gael ystafell newid a thy bach ar wahan i oedolion, a bydd angen i blant dros 5 oed gael ystafelloedd gwisgo ar wahan ar gyfer bechgyn a merched.

Rhaid bod natur y perfformiad yn addas ar gyfer oedran eich plentyn. Os ydych chi'n teimlo bod eich plentyn yn dechrau blino, mynd yn sal neu'n gorweithio, neu os nad ydych chi'n fodlon ar ei amodau gweithio, dylech drafod eich pryderon gyda'r cyfarwyddwr/cynhyrchydd. Mae gennych yr hawl i ofyn i'ch plentyn gael egwyl. Mae iechyd a lles eich plentyn yn hollbwysig ac yn y pen draw, bydd gennych yr hawl i dynnu'ch plentyn yn ol o'r perfformiad os na ellir penderfynu ar gytundeb boddhaol.

Efallai y bydd anen i chi aros pan fydd plant eraill yn perfformio. Sicrhewch eich bod yn mynd a rhywbeth i'ch plentyn ei wneud. Gwiriwch a oes unrhyw gyfleusterau bwyd a diod ar gael yn lleoliad y perfformiad cyn i chi gyrraedd oherwydd ni chaiff y rhain eu darparu ar bob adeg ac efallai y bydd angen i chi fynd a'ch bwyd a'ch diodydd eich hun.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'r amserau penodol y gall eich plentyn fod yn bresennol yn lleoliad y perfformiad; nodir y rhai trosodd. Bydd angen cytuno ar unrhyw oriau gwaith cyn neu ar ol yr oriau a nodir trosodd gyda'r awdurdod lleol pan fyddwch yn cyflwyno cais am drwydded perfformio. Nodir yr oriau y cytunwyd arnynt ar drwydded perfformio'ch plentyn a anfonwyd atoch.

Yn ystod cyfnod y perfformiad, gall swyddog o'r awdurdod lleol ymweld a chi. Byddant yn ymweld er mwyn sicrhau eich bod yn dilyn y rheoliadau angenrheidiol a bod eich plentyn yn cael ei drin yn briodol.

Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ofynnir gennych yn synnwyr cyffredin er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn hapus ac yn ddiogel ar bob adeg, a'i fod yn cael profiad pleserus.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, ebost Trwyddedu perfformio plant.

Plant mewn adloniant - cyfyngiadau mewn perthynas a phob perfformiad
Pwnc0 i 4 oed5 i 8 oed9 oed ac yn hyn
Uchafswm yr oriau yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer (Rheoliad 24)5 awr8 awr9.5 awr
Amserau cynharaf a hwryaf a ganiateir yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer (Rheoliad 23)7.00am - 10.00pm7.00am - 11.00pm7.00am - 11.00pm
Uchafswm y cyfnod perfformio neu ymarfer parhaus (Rheoliad 24)30 munud2.5 awr2.5 awr
Uchafswm nifer yr oriau perfformio neu ymarfer (Rheoliad 24)2 awr3 awr5 awr
Lleiafswm yr ysbeidiau ar gyfer prydau bwyd a gorffwys (Rheoliad 25)Rhaid i unrhyw ysbeidiau fod am leiafswm o 15 munud. Os yw'r plentyn yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer am fwy na 4 awr, rhaid i'r ysbeidiau gynnwys o leiaf un ysbaid 45 munud i fwyta pryd o fwyd.

Os yw'r plentyn yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer am fwy na 4 awr ond am lai nag 8 awr, bydd angen iddo gael o leiaf un ysbaid 45 munud i fwyta pryd o fwyd ac o leiaf un ysbaid 15 munud.

Os yw'r plentyn yn lleoliad y perfformiad neu'r fwy, bydd angen iddo gael yr ysbeidiau a nodir uchod ac un ysbaid arall o 15 munud.

Os yw'r plentyn yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer am fwy na 4 awr ond am lai nag 8 awr, bydd angen iddo gael o leiaf un ysbaid 45 munud i fwyta pryd o fwyd ac o leiaf un ysbaid 15 munud.

Os yw'r plentyn yn lleoliad y perfformiad neu'r ymarfer am 8 awr neu fwy, bydd angen iddo gael yr ysbeidiau a nodir uchod ac un ysbaid arall o 15 munud.

Addysg (Rheoliad 15)DD/B3 awr y diwrnod (uchafswm o 5 awr y dydd). 15 awr yr wythnos, ac addysg ar ddiwrnodau ysgol yn unig. Lleiafswm o 6 awr mewn wythnos os yw'n cydgasglu dros gyfnod o 4 wythnos neu lai.3 awr y diwrnod (uchafswm o 5 awr y dydd). 15 awr yr wythnos, ac addysg ar ddiwrnodau ysgol yn unig. Lleiafswm o 6 awr mewn wythnos os yw'n cydgasglu dros gyfnod o 4 wythnos neu lai.
Lleiafswm yr ysbeidiau rhwng perfformiadau (Rheoliad 25)1 awr a 30 munud1 awr a 30 munud1 awr a 30 munud
Uchafswm y diwrnodau olynol y gellir cymryd rhan mewn perfformiad neu ymarfer (Rheliad 28)6 niwrnod6 niwrnod6 niwrnod

 

Noder: Dylai awdurdodau lleol nodi Rheoliad 5, sy'n caniatau i'r awdurdod trwyddedu gyfyngu ar yr oriau a ganiateir, yr ysbeidiau, etc. ymhellach, ac iddo roi amodau ychwanegol ar y drwydded os yw hynny er lles gorau'r plentyn unigol.

Close Dewis iaith