Canllaw rheoliadau adeiladu
Rheoliadau adeiladu yw'r safonau gofynnol o ran adeiladu. Maent yn cynnwys strwythur adeilad, diogelwch tân, cadwraeth ynni a mynediad a defnydd o adeiladau.
Yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r rheoliadau adeiladu.
Gallwn roi cyngor i chi ar sut i sicrhau eich bod yn bodloni'r rheoliadau adeiladu. Gallwch ein ffonio ar (01792 635636) neu e-bostio rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk.
Dogfennau cymeradwy ar gyfer rheoliadau adeiladu
Mae esboniad am sut y dylid defnyddio'r arweiniad rheoliadau adeiladu yn y dogfennau cymeradwy. Ceir arweiniad manwl a'r dogfennau gorffenedig ar wefan Llywodraeth Cymru. O'r wefan hon, gallwch lawrlwytho copi pdf neu archebu fersiwn wedi'i hargraffu.
Mae pob dogfen yn cynnwys:
- arweiniad cyffredinol ar berfformiad disgwyliedig deunyddiau a gwaith adeiladu er mwyn cydymffurfio â phob gofyniad y rheoliadau adeiladu
 - enghreifftiau ac atebion ymarferol ar sut i gydymffurfio â rhai o'r sefyllfaoedd adeiladu mwyaf cyffredin.
 
Y dogfennau cymeradwy yw:
- Rhan A: diogelwch strwythurol
 - Rhan B: diogelwch tân
 - Rhan C: ymwrthedd i halogyddion a lleithder
 - Rhan D: sylweddau gwenwynig
 - Rhan E: ymwrthedd i sŵn
 - Rhan F: awyru
 - Rhan G: glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac arbed dŵr
 - Rhan H: systemau draenio a gwaredu gwastraff
 - Rhan J: dyfeisiau sy'n cynhyrchu gwres
 - Rhan K: diogelu rhag syrthio, gwrthdaro a tharo
 - Rhan L: arbed tanwydd ac ynni
 - Rhan M: mynediad i adeiladau a defnydd ohonynt
 - Rhan N: diogelwch gwydr
 - Rhan P: diogelwch gyda thrydan
 - Rhan Q: diogelwch
 - Rhan R: seilwaith ffisegol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym.
 
