Canolfan Trochi Iaith Gymraeg Garn Goch
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad i'r Ganolfan Trochi Iaith Gymraeg
Yn Abertawe, mae Canolfan Trochi Iaith Garn Goch yn cefnogi plant ysgol gynradd sydd wedi symud i addysg cyfrwng Cymraeg yn ddiweddar. Nod y ganolfan yw cefnogi hwyrddyfodiaid i feistroli'r Gymraeg, gan eu galluogi i gymryd rhan lawn mewn addysg yn Gymraeg. Lleolir ein canolfan yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-Y-Lan, ac mae'n cael ei staffio gan athrawes gymwys a chynorthwyydd â sgiliau ieithyddol arbennig, sy'n fodelau rôl rhagorol.
Manylion y cwrs
Mae pob disgybl yn:
- dechrau ar yr un lefel, fel newydd-ddyfodiaid i'r iaith;
- dysgu mewn awyrgylch cyfeillgar ac ysgogol; ac yn
- cael cyfle i fanteisio ar adnoddau a chyfleusterau ardderchog ysgolion eraill yn Abertawe.
Cwrs Hwyrddyfodiaid (tri diwrnod yr wythnos)
Mae disgyblion newydd i addysg Gymraeg yn dilyn y Cwrs Hwyrddyfodiaid. Ffocws y cwrs tri diwrnod hwn yn bennaf yw cynnig ymyrraeth ddwys drwy ddulliau trochi iaith, gan roi ffocws cryf ar ddatblygu sgiliau llafaredd y disgyblion, gyda chyflwyniad i eirfa a phatrymau allweddol dros y tri thymor. Mae hyn yn galluogi disgyblion i siarad yn hyderus a chael mynediad llawn at addysg Gymraeg.
Cymorth yn ôl yn yr ysgol (un diwrnod yr wythnos)
Mae cefnogaeth wythnosol yn cael ei darparu yn ôl yn yr ysgol, sy'n meithrin sgiliau dysgwyr, yn hyrwyddo sgiliau llafaredd ymhellach ac yn caniatáu iddynt gefnogi a chysylltu ag athrawon yn rheolaidd.
Mae staff yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu sgiliau siarad, darllen ac ysgrifennu'r disgyblion. Mae staff y Ganolfan Iaith hefyd yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd ag ysgolion a rhieni i drafod cynnydd disgyblion.
Cwestiynau cyffredin
Sut mae'n gweithio?
Mae disgyblion rhwng 5 ac 11 oed yn dechrau mewn ysgol cyfrwng Cymraeg o'u dewis ac yn mynychu'r ganolfan yn rhan-amser am 3 thymor. Maent yn dilyn cwrs strwythuredig ac yn dod yn rhugl ar lafar, yn ogystal â datblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Sut ydych chi'n delio â'r cwricwlwm?
Mae staff y ganolfan yn athrawon cymwys a phrofiadol. Er bod pwyslais ar ddysgu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg, bydd eich plentyn hefyd yn profi agweddau eraill ar y cwricwlwm drwy amrywiaeth o ddulliau addysgu thematig.
Ydy'r disgyblion yn cael cinio ysgol?
Mae cinio ysgol am ddim ar gael i bawb.
A oes cludiant ar gael?
Mae staff y Ganolfan Iaith yn gweithio gydag ysgolion a theuluoedd i drefnu'r cludiant ar gyfer pob plentyn newydd.
A oes cost i fynychu'r Ganolfan Iaith?
Nac oes.
Beth os nad ydw i'n siarad Cymraeg?
Erbyn hyn, mae nifer mawr o blant o gefndir di-Gymraeg wedi elwa o'r Ganolfan Iaith. Byddwch yn cael cefnogaeth dda gan eich ysgol ddewisol a'r Ganolfan Iaith, Maent yn cyfathrebu â rhieni yn y ddwy iaith ac mae digon o gymorth i helpu gyda gwaith ysgol.
A fydd dysgu Cymraeg yn effeithio ar Saesneg fy mhlentyn?
Na fydd. Mewn gwirionedd, gall helpu eich plentyn. Drwy ddysgu dwy iaith ar yr un pryd, mae plant yn dod yn fwy ymwybodol o sut mae ieithoedd yn gweithio yn gyffredinol. Mae ymchwil yn dangos bod gallu siarad a defnyddio dwy iaith yn gwella gallu plentyn i ddefnyddio a dysgu iaith yn gyffredinol.
A ddylwn i ddysgu Cymraeg ochr yn ochr â fy mhlentyn?
Mae rhai rhieni yn penderfynu dysgu Cymraeg eu hunain ar ôl dewis ysgol cyfrwng Cymraeg i'w plentyn. Mae Dysgu Cymraeg Dysgu Cymraeg yn cynnig cyrsiau i ddysgwyr ar bob lefel, ac mae'n gyfle gwych i ddysgu gyda'ch gilydd.
Manteision dysgu Cymraeg i blant
- Yn nol ymchwil, mae plant sy'n deall mwy nag un iaith yn meddwl yn fwy hyblyg a chreadigol.
- Mwy o gyfleoedd economaidd wrth i'ch plentyn chwilio am waith, gyda llawer o swyddi yng Nghymru yn gofyn am sgiliau dwyieithog.
- Gall helpu i adeiladu pontydd rhwng cenedlaethau os yw perthnasoedd yn siarad Cymraeg.
- Cyfle i brofi dau ddiwylliant gwahanol.
- Gall helpu i greu ymdeimlad o berthyn.
Adborth
Dyfyniadau gan athrawon
"Mae'r athrawon yng Nghanolfan Garn Goch wedi cyfathrebu yn gyson â ni fel ysgol a staff dosbarth. Mae'r gefnogaeth a rhoddwyd i'n disgyblion wedi bod yn amhrisiadwy, ac mae'n bosib gweld cynnydd sylweddol yn iaith y disgybl drwy gyfrwng y Gymraeg ar lafar, drwy ddarllen a thrwy dasgau ysgrifenedig. Braf oedd mynd i'r ganolfan ddoe a gweld gwaith y disgyblion. Mae amgylchedd dysgu effeithiol wedi ei greu ac mae perthynas hyfryd rhwng y staff a'r plant. Diolch o galon i chi am eich cefnogaeth iddynt drwy gydol y flwyddyn academaidd hon."
"Mae'r tîm yn Garn Goch wedi gweithio'n galed gyda'n disgybl i ddatblygu ei sgiliau ond maent hefyd wedi cydweithio'n agos gyda ni fel ysgol i sicrhau bod ganddi'r cyfle gorau posib i ddysgu'r iaith. Diolch iddynt am eu holl waith caled, ac yn sicr mae hi ar y trywydd cywir ac mae ei defnydd o'r iaith yn cryfhau'n wythnosol."
"Diolch enfawr am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad parhaus."
Dyfyniadau gan ddysgwyr
"Rydw i'n mwynhau chwarae gemau a phaentio. Rydw i'n hoffi siarad Cymraeg."
"Rydyn ni'n cael hwyl yn chwarae gyda sialc a phaentio."
"Rydw i'n mwynhau lliwio a gwneud ffrindiau newydd."
"Rydw i'n caru Garn Goch. Rwy'n hoffi paentio, chwarae gemau, yr athrawon, a phawb."
"Rydw i'n hoffi darllen, paentio a fy ystafell ddosbarth yn Garn Goch."