Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Casgliadau o dŷ i dŷ

Os ydych yn bwriadu casglu arian elusennol o ddrws i ddrws, o siop i siop neu o dafarn i dafarn, mae angen trwydded o dŷ i dŷ arnoch.

Mae'n rhaid cyflwyno cais o leiaf 28 niwrnod cyn y casgliad. Oherwydd y gellir cynnal un casgliad yn unig y tro, y cynharaf rydych yn gofyn am ddyddiad, y mwyaf tebygol rydych o gael y dyddiad a ddymunir. Os nad oes lle ar y dyddiad gofynnol, cynigiwn ddyddiadau eraill i chi.

Mae'r Swyddfa Gartref yn eithrio rhai elusennau cenedlaethol ac nid oes angen trwydded casglu arnynt. Y cyfan mae angen ei wneud yw rhoi gwybod i ni am y dyddiadau a lleoedd casglu yn y fath achosion. 

Ar ôl cynnal eich casgliad, mae gennych 28 niwrnod i gyflwyno datganiad o gyfrifon. Mae hyn yn dangos y swm a godwyd, y gwariant a'r cyfanswm a gasglwyd ar gyfer y sefydliad penodol. Dylech fod yn ymwybodol na fydd sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofyniad hwn yn cael eu hystyried ar gyfer trwyddedau yn y dyfodol.

Os ydych yn trefnu casgliad o dŷ i dŷ, cysylltwch â ni cyn anfon eich hysbysiad. Os na chysylltwch â ni, gall eich dyddiad gofynnol wrthdaro â chasgliad sydd eisoes wedi'i awdurdodi, a fydd yn arwain at wrthod eich cais.

Rhaid i gasgliadau fod yn drwyddedig ni waeth a fwriedir casglu rhoddion ariannol, mandad debyd uniongyrchol neu roddion sy'n cynnwys nwyddau cartref, dillad, teganau neu eitemau eraill. Rhaid i gasgliadau a wneir gan gwmnïau masnachol lle rhoddir cyfran o'r refeniw i elusennau hefyd fod yn drwyddedig.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch trwyddedu.iya@abertawe.gov.uk