Toglo gwelededd dewislen symudol

Casglu â chymorth

Os rydych yn cael anawsterau wrth gludo eich ailgylchu a'ch sbwriel i ymyl y ffordd i'w casglu, gallech fod yn gymwys am gasglu â chymorth. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n casglu'r ailgylchu a'r gwastraff o garreg eich drws.

Mae gwasanaeth casglu â chymorth ar gael i drigolion ag anabledd, neu sy'n hŷn, ac sy'n rhan o'r gwasanaeth ailgylchu. Bydd trigolion yn gymwys am gasglu â chymorth ar yr amod nad oes unrhyw un arall yn byw ar yr aelwyd sy'n gallu cludo'r bagiau a'r biniau.

Os oes diddordeb gennych mewn cyflwyno cais am gasglu â chymorth, cwblhewch y ffurflen isod. Yna, byddwn yn anfon ffurflen gais atoch, y dylid ei chwblhau a'i dychwelyd atom. Dylai'r ffurflen hefyd fod wedi'i llofnodi gan eich meddyg a chyda stamp y feddygfa arni.

Nes i chi dderbyn cadarnhad gennym sy'n dweud eich bod yn gymwys am gasglu â chymorth, gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael eich bagiau a'ch biniau wrth ymyl y ffordd i'w casglu fel arfer.