Casgliadau ymyl y ffordd
Gwybodaeth am yr hyn y gellir ei gasglu oddi ar ymyl y ffordd, casgliadau â chymorth a chasgliadau bin a gollwyd.
NI fyddwn yn casglu gwastraff gardd rhwng 4 Rhagfyr 2023 a 26 Ionawr 2024. Gallwch fynd ag unrhyw wastraff gardd a gynhyrchir yn ystod y cyfnod hwn i'ch canolfan ailgylchu leol neu ei storio/gompostio gartref nes bydd casgliadau'n ailgychwyn.
Mae ein casgliadau ymyl y ffordd yn cynnwys papur, cardbord, gwydr, caniau, plastig, gwastraff bwyd, a gwastraff gardd yn ogystal â sbwriel cartref.
Casgliad a gollwyd
Deunydd ailgylchu neu wastraff sydd heb ei gasglu.
Casglu sachau gwyrdd
Gallwch ddefnyddio sachau gwyrdd ar gyfer caniau, gwydr, papur, a cardbord. Byddwn yn eu casglu yn ystod eich wythnos werdd.
Casglu sachau pinc
Gallwch ddefnyddio sachau pinc ar gyfer plastigion. Rydym yn eu casglu yn ystod eich wythnos binc.
Casglu gwastraff bwyd
Defnyddiwch eich bin gwyrdd ar gyfer eich casgliad gwastraff bwyd wythnosol.
Casgliad gwastraff gardd
Defnyddiwch y bagiau gwyn ailddefnyddiadwy ar gyfer eich gwastraff gardd. Byddwn yn ei gasglu ar eich wythnos werdd.
Casglu sachau du
Mae sachau du ar gyfer gwastraff cartref na ellir ei ailgylchu yn unig.
Casglu â chymorth
Os rydych yn cael anawsterau wrth gludo eich ailgylchu a'ch sbwriel i ymyl y ffordd i'w casglu, gallech fod yn gymwys am gasglu â chymorth. Mae hyn yn golygu y byddwn ni'n casglu'r ailgylchu a'r gwastraff o garreg eich drws.
Casglu deunydd ailgylchu a gwastraff mewn tywydd gwyntog
Er mwyn helpu i atal sbwriel a chadw eich cymuned yn daclus, dilynwch yr awgrymiadau ailgylchu hyn pan fydd y tywydd yn gwaethygu.
Chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel
Defnyddiwch y cyfleuster chwilio hwn i gael gwybod pryd bydd eich holl gasgliadau ailgylchu a sbwriel.
Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y gwyliau
Bydd casgliadau'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn newid a chyhoeddir y dyddiadau hyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn pan gânt eu cadarnhau.
Casgliadau ailgylchu i fflatiau
Mae'r holl wasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd ar gael i'r holl breswylwyr mewn fflatiau ar draws Abertawe.