Toglo gwelededd dewislen symudol

Treial ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig

O Ebrill 2025, byddwn yn treialu gwasanaeth casglu newydd yn rhai rhannau o'r sir i ddarganfod y ffordd orau o gasglu ac ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig.

Mae preswylwyr y Abertawe eisoes yn ailgylchu 70% o'u gwastraff, ond rydym am eich helpu i ailgylchu mwy fyth.

Rydym wedi gwahodd tua 22,000 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial. Mae'r preswylwyr yr ydym wedi gwahodd â hwy yn byw mewn cymysgedd o fathau o dai ac ardaloedd er mwyn inni allu cael dealltwriaeth dda a theg o sut mae gwahanol gartrefi'n defnyddio'r gwasanaeth.

Bydd yr eitemau rydyn ni'n eu casglu gennych chi fel rhan o'r treial yn cael eu hailgylchu i wneud nwyddau newydd, fel Bagiau am Oes a bagiau bin. Bydd hyn yn lleihau ein dibyniaeth ar ddeunyddiau newydd neu 'ddeunydd crai' i greu nwyddau plastig untro fel y rhain a'n galluogi i ailgylchu mwy o'n gwastraff o gartref.

Bydd y treial yn cael ei gynnal dros naw mis, gan ddod i ben ar ddydd Mercher 24 Rhagfyr 2025.  

Dyma'r lleoedd sy'n cymryd rhan yn y treial:

Casgliad Dydd Mawrth

  • Blaenymaes
  • Fforestfach
  • Penlan
  • Penllergaer
  • Pontlliw
  • Ravenhill
  • Waunarlwydd

Casgliad Dydd Gwener

  • Clydach
  • Cockett
  • Craig Cefn Park
  • Glais
  • Hafod
  • Mayhill
  • Townhill

Sylwch y bydd bagiau'n cael eu danfon i'r gwahanol ardaloedd yn raddol ar benwythnosau trwy gydol Ebrill a Mai.

Beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych chi'n byw yn un o'r ardaloedd sy'n cymryd rhan yn y treial, byddwn yn danfon rholyn o fagiau glas a thaflen i'ch cartref. Os nad ydych yn byw yn un o'r ardaloedd hyn a/neu nad ydych yn derbyn taflen a sachau, yna nid ydych wedi'ch cynnwys yn y cyfnod treialu.

Mae'r daflen yn gofyn i chi gymryd y camau canlynol yn ystod y cyfnod prawf:

  1. Rhowch eich bagiau a deunyddiau lapio plastig gwag mewn bag las;
  2. Ar ôl ei llenwi, clymwch eich sach yn ddiogel gyda chwlwm dwbl i atal ei chynnwys rhag dianc; yna
  3. Rhowch eich bag glas wrth ymyl eich bag pinc ailddefnyddiadwy ar eich diwrnod casglu 'wythnos binc' arferol, bob pythefnos.

Rhowch eitemau yn rhydd y tu mewn i'ch bagiau glas; peidiwch â rhoi un eitem y tu mewn i un arall, gan fod hyn yn ei gwneud hi'n anodd sortio'ch eitemau pan fyddant yn cael eu prosesu i'w hailgylchu.

Ni ddylai fod angen i chi roi mwy nag un bag llawn allan bob pythefnos yn ystod y treial, ond os oes angen i chi gasglu mwy o fagiau, e-bostiwch ni yn evh@abertawe.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01792 635600.

Pa eitemau ddylwn i eu rhoi yn fy magiau? 

Rhowch yr eitemau canlynol yn eich bagiau ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:

  • bagiau siopa plastig 
  • pecynnau creision a chnau
  • pecynnau bisgedi
  • pecynnau bariau siocled a melysion
  • bagiau pasta a reis
  • bagiau bara
  • bagiau leinio bocsys grawnfwyd 
  • bagiau parseli/danfoniadau plastig 
  • labeli/pecynnau plastig o amgylch poteli diodydd 
  • bagiau bwyd cathod a chŵn plastig
  • bagiau sychlanhau a bagiau lapio dillad newydd
  • deunydd pacio plastig a ddefnyddir gan adwerthwyr i ddosbarthu eitemau cartref, megis nwyddau gwyn  
  • bagiau compost gardd ac uwchbridd plastig
  • deunydd lapio plastig a ddefnyddir ar gyfer pecynnau aml-becyn creision, cnau a melysion
  • bagiau ffrwythau, salad a llysiau wedi'u pacio'n barod
  • bagiau plastig tenau sy'n dal eitemau ffrwythau, salad a llysiau rhydd
  • ffilm, fel caeadau prydau parod a chaeadau potiau iogwrt
  • bagiau rhewgell
  • bagiau bwyd rhewgell
  • deunydd lapio cylchgronau a phapurau newydd
  • deunydd lapio aml-becyn a dolenni plastig o becynnau poteli a chaniau
  • deunydd lapio pecynnau o bapur toiled a phapur cegin 

Sicrhewch fod eich bagiau a deunydd lapio plastig yn wag a rhowch rinsiad cyflym iddynt i gael gwared â chymaint o weddillion bwyd â phosibl.

Pa eitemau NA ddylwn i eu rhoi yn fy magiau?

PEIDIWCH â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bagiau ar gyfer bagiau a deunydd lapio plastig:

  • haenen lynu
  • polystyren neu ewyn
  • tiwbiau creision (derbynir mewn canolfannau ailgylchu)
  • codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer bwyd (fel reis microdon), diodydd, bwyd babanod neu anifeiliaid anwes 
  • bagiau rhannu neu godenni a ddefnyddir ar gyfer siocledi neu losin
  • codenni neu sachets a ddefnyddir ar gyfer nwyddau glanhau, fel capsiwlau neu dabledi peiriant golchi llestri neu olchi dillad 
  • rhwydi plastig a ddefnyddir i bacio ffrwythau a llysiau 
  • pocedi plastig tyllog, fel 'Poly Pockets' 
  • gwellt plastig neu gyllyll a ffyrc 
  • menig neu fasgiau tafladwy
  • balwnau
  • pecynnau swigod plastig a ddefnyddir ar gyfer tabledi

Daliwch ati i roi'r eitemau hyn yn eich bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Ni fyddwn yn casglu eich bagiau glas os ydynt yn cynnwys eitemau anghywir neu'n cynnwys bwyd neu hylif.

Rhowch gynnig ar ein raffl i ennill cerdyn rhodd gwerth £50

Dywedwch eich barn wrthym am y treial drwy lenwi ein harolwg cyflym, a byddwn yn eich cynnwys mewn raffl i ennill Cerdyn Rhodd One4all gwerth £50. 

Bydd yr arolwg ar agor o ddydd Llun 30 Mehefin am bedair wythnos. Byddwch yn gallu cyrchu'r arolwg o'r dudalen we hon. 

Byddwn yn ysgrifennu atoch eto ychydig cyn i'r arolwg agor.

Telerau ac Amodau raffl Telerau ac Amodau raffl treial ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig

Sylwer: mae gwerth cerdyn rhodd y raffl wedi'i ariannu i Gyngor Abertawe gan Lywodraeth Cymru; nid yw'n cael ei dalu amdano gan ddefnyddio taliadau Treth y Cyngor preswylwyr. 

Cwestiynau cyffredin treialu ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig

Cwestiynau cyffredin ar gyfer trigolion sy'n cymryd rhan yn y treial ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig.

Telerau ac Amodau raffl treial ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig

Telerau ac Amodau ar gyfer hyrwyddiad 'Ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig' Cyngor Abertawe ('yr Hyrwyddiad')

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Ebrill 2025