Cwestiynau cyffredin treialu ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig
Cwestiynau cyffredin ar gyfer trigolion sy'n cymryd rhan yn y treial ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig.
Pam ydych chi'n treialu casgliadau o fagiau plastig a lapio?
Mae bron i 9% o'r hyn sydd yn eich bagiau du yn cynnwys bagiau a deunydd lapio plastig. Eitemau untro yw'r rhain, ac mae'r rhan fwyaf wedi'u gwneud o blastig newydd neu 'crai'.
Bydd treialu casgliadau o'r deunyddiau hyn i'w hailgylchu yn lleihau faint o ddeunydd newydd sydd ei angen i wneud pecynnau plastig untro, tafladwy.
Bydd y treial yn ein galluogi i ddeall sut y gellir cynnwys bagiau a deunydd lapio plastig mewn casgliadau ailgylchu presennol, a sut y bydd ailgylchu'r deunydd hwn yn ein helpu i gyrraedd ein targedau carbon ac ailgylchu yng Nghymru.
A gaf i roi mathau eraill o blastig yn y bagiau, fel poteli plastig?
Na. Parhewch i roi plastigion 'anhyblyg' - fel poteli, potiau a thybiau plastig - yn eich bag pinc ailddefnyddiadwy presennol ar gyfer eich plastigion, ar ôl eu rinsio'n gyflym. Mae'r rhain yn cynnwys:
- poteli nwyddau glanhau plastig, fel poteli cannydd a chwistrellau
- poteli diodydd plastig, fel llaeth, diod feddal a photeli dŵr
- cynwysyddion bwyd plastig, fel potiau iogwrt, tybiau menyn a hufen iâ, tybiau ffrwythau a phecynnau cacennau
Rhaid ailgylchu plastig meddal - fel bagiau a deunydd lapio plastig - ar wahân i blastigion 'anhyblyg' - fel poteli, potiau a thybiau plastig.
Pam ydych chi wedi darparu bagiau untro ar gyfer y treial hwn?
Ni ellir ailgylchu bagiau a deunydd lapio plastig gyda phlastigion eraill rydym yn eu casglu, fel eich poteli, potiau a thybiau. Mae'r bag yn eu cadw ar wahân i ddeunyddiau eraill yn ystod y casgliad a phan fyddant yn cael eu prosesu i'w hailgylchu.
Gallwn ailgylchu'r bagiau glas ochr yn ochr â'ch bagiau a deunydd lapio plastig.
Os yw'n wyntog, sut gallaf atal fy magiau rhag chwythu i ffwrdd ar fy niwrnod casglu?
Os gallwch ymdopi, ystyriwch aros tan yr penwythnos ganlynol pan all y tywydd fod yn well i'w gadael allan.
Os yw'n bosibl, 'gwasgwch' eich bag rhwng eich cynwysyddion ailgylchu eraill.
Cofiwch hefyd bod angen clymu eich bag yn ddiogel gyda chwlwm dwbl i atal ei chynnwys rhag dianc.
A gaf i archebu mwy o fagiau?
Ni ddylai fod angen i chi roi mwy nag un bag llawn allan bob pythefnos yn ystod y treial, ond os oes angen i chi gasglu mwy o fagiau, e-bostiwch ni yn evh@abertawe.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01792 635600.
Rwy'n credu fy mod i yn yr ardal brawf ond nid wyf wedi derbyn unrhyw sachau na thaflenni.
Os yw eich cymdogion ar y stryd yn rhoi sachau glas allan i'w casglu o ymyl y ffordd ond nad ydych wedi derbyn sachau, gallwch gysylltu â ni i wirio hyn.
Sut ydw i'n ailgylchu bagiau plastig a deunydd lapio os nad ydw i wedi fy nghynnwys yn y cyfnod treialu?
Gellir ailgylchu bagiau plastig a deunydd lapio mewn llawer o fannau ailgylchu mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd. Ewch i www.walesrecycles.org.uk/cy (Yn agor ffenestr newydd) i ddod o hyd i'ch cyfleuster agosaf.
Os na allwch fynd â'ch eitemau i un o'r mannau hyn, gallwch eu rhoi yn eich sachau du i'w casglu o ymyl y ffordd.
Beth ddylwn i ei wneud os oes gennyf unrhyw fagiau sbâr ar ôl ar ddiwedd y treial?
Os bydd gennych bagiau gwag dros ben unwaith y bydd y treial drosodd, gallwch eu rhoi yn y fag olaf y byddwch yn ei rhoi allan i ni ei chasglu ar ddiwedd y treial. Neu gallwch eu hailgylchu mewn mannau ailgylchu 'oddi cartref' mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd.
Beth ddylwn ei wneud â bagiau a deunydd lapio plastig pan fydd y treial wedi dod i ben?
Os hoffech barhau i ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig unwaith y daw'r treial i ben, gallwch fynd â'r eitemau hyn i mannau ailgylchu 'oddi cartref' mewn lleoliadau fel archfarchnadoedd.
Ewch i www.walesrecycles.org.uk/cy (Yn agor ffenestr newydd) i ddod o hyd i'ch cyfleuster agosaf. Gall y mathau o eitemau a dderbynnir amrywio rhwng gwahanol leoliadau, felly dilynwch y canllawiau a ddarperir gan y sefydliad sy'n rheoli'r man ailgylchu.
Os na allwch fynd â'r eitemau hyn i un o'r cyfleusterau hyn a bod angen i chi gael gwared arnyn nhw gartref, ewch yn ôl i'w rhoi nhw yn eich bagiau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.
Os bydd y treial yn llwyddiannus, a fydd yn cael ei gyflwyno'n barhaol, ar draws y sir?
Er ein bod yn gobeithio y bydd y treial yn llwyddiannus ac yn dangos i ni sut orau i gasglu ac ailgylchu eich bagiau a deunydd lapio plastig, ni fyddwn yn gallu cadarnhau os - a sut - y gallem gyflwyno gwasanaeth casglu parhaus, parhaol ar gyfer yr eitemau hyn tan ar ôl i'r treial ddod i ben.
Byddwn yn gweithio gydag arbenigwyr i ddadansoddi dirnadaethau'r treial ac ystyried yr argymhellion a'r camau nesaf i'w gwneud mor hawdd â phosibl i breswylwyr ailgylchu cymaint â phosib o'u gwastraff o'u cartrefi.
A gaf i roi fy adborth am y treial?
Cewch. Hoffem i chi ddweud eich barn wrthym am y treial naw mis hwn drwy lenwi arolwg cyflym, unwaith y bydd wedi bod yn mynd yn ei flaen ers tri mis.
Pan fyddwn yn danfon eich rholyn o fagiau glas a thaflen i'ch cartref cyn i'r treial ddechrau, byddwn yn cynnwys dolen we i'r arolwg byr.
Pan fyddwch yn cyflwyno'ch arolwg, byddwn yn eich cynnwys mewn raffl i ennill Cerdyn Rhodd One4all gwerth £50.
Bydd yr arolwg ar agor am bedair wythnos, o ddydd Llun 30 Mehefin tan ddydd Sul 27 Gorffennaf 2025.
Byddwn yn ysgrifennu atoch eto ychydig cyn i'r arolwg agor.
Sylwer: mae gwerth cerdyn rhodd y raffl wedi'i ariannu i Gyngor Abertawe gan Lywodraeth Cymru; nid yw'n cael ei dalu amdano gan ddefnyddio taliadau Treth y Cyngor preswylwyr.
Pam mai dim ond i nifer fach o aelwydydd y mae'r treial ar gael?
Rydym wedi gwahodd tua 22,000 o gartrefi i gymryd rhan yn y treial. Mae'r preswylwyr rydyn ni wedi'u gwahodd yn byw mewn cymysgedd o fathau o dai ac ardaloedd er mwyn inni allu cael dealltwriaeth dda a theg o sut mae gwahanol gartrefi'n defnyddio'r gwasanaeth.
Beth ddylwn i ei wneud os na chaiff fy mag glas ei chasglu?
Mae'n bosibl na fyddwn yn casglu'ch bag am un neu fwy o'r rhesymau canlynol:
- ei fod yn cynnwys eitemau anghywir
- nid yw'r bag wedi'i chlymu'n ddiogel
- bod yr eitemau yn y bag yn cynnwys gormod o weddillion bwyd
Os nad ydym wedi casglu eich bag, gwiriwch yr eitemau a roesoch ynddi gan ddefnyddio'r rhestr yn y daflen a ddosbarthwyd gennym gyda'ch bagiau, yna tynnwch unrhyw eitemau anghywir.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn clymu'ch bag yn ddiogel gyda chwlwm dwbl.
Os yw unrhyw eitemau yn cynnwys gweddillion bwyd, rhowch rins iddynt, yna rhowch eich bag allan ar eich diwrnod casglu 'wythnos binc' nesaf.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i eisiau mwy o wybodaeth?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach nad ydynt yn cael eu hateb yn y Cwestiynau Cyffredin hyn, e-bostiwch ni yn evh@abertawe.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01792 635600.