Bydd rhai criwiau casglu'n dechrau eu gwaith yn gynharach nag arfer yn ystod yr amgylchiadau presennol. Sicrhewch felly eich bod chi'n rhoi eich holl ailgylchu a'ch sachau du ar ymyl y ffordd yn barod i'w casglu erbyn 6.00am ar eich diwrnod casglu.
Casglu gwastraff bwyd
Defnyddiwch eich bin gwyrdd ar gyfer eich casgliad gwastraff bwyd wythnosol.
Er mwyn sicrhau y cesglir eich eitemau:
- Defnyddiwch y biniau rydym yn eu darparu am ddim
- Rhowch eich biniau allan i'w casglu rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 7.00am ar fore'ch diwrnod casglu
- Cadwch eich blwch yn lân trwy ddefnyddio'r leinwyr rydym yn eu darparu am ddim
- Paentiwch neu ysgrifennwch rif eich tŷ ar eich bin
- Defnyddiwch ein Teclyn Chwilio am Gasgliadau Ailgylchu a Sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch gwastraff
O ble y gallaf gael bin bwyd?
Mae biniau bwyd ar gael i'w casglu o unrhyw un lyfrgell neu swyddfa dai'r cyngor. Gweler ein rhestr lawn i ddod o hyd i'ch lleoliad agosaf.
Byddwn yn darparu bin bach i'w gadw yn eich cegin y gallwch ei leinio â bagiau gwastraff bwyd, a bin mwy â chlawr cloadwy i'w gadw tu fas y bydd criwiau casglu yn ei wacáu.
Os na allwch gasglu bin, gallwch ofyn i'r cyngor ddanfon un atoch. Sylwer y gall gymryd hyd at 10 niwrnod gwaith i'w ddanfon.
Beth i'w roi yn y biniau
Diolch yn fawr
Rhowch yr eitemau canlynol yn eich bin gwastraff bwyd:
- Plicion ffrwythau a llysiau
- Bwyd dros ben wedi'i goginio (e.e. reis, pasta, llysiau)
- Cig
- Bagiau te
- Plisg wyau
- Bwyd wedi pydru
- Cig a physgod (wedi'u neu heb eu coginio)
- Cynnyrch llefrith
- Esgyrn mân hyd at ac yn cynnwys carcas cyw iâr
Dim diolch
Peidiwch â rhoi'r eitemau canlynol yn eich bin gwastraff bwyd:
- Bwyd wedi'i becynnu (gwahanwch fwyd oddi wrth becynnu a'i ailgylchu ar wahân)
- Cerdyn, gardbord neu papur cegin
Cadwch wastraff bwyd o'ch sachau du
Yn ôl arolwg diweddar, bwyd oedd mwy na chwarter o wastraff sachau du yn Abertawe.
Pam na ddylwn roi gwastraff bwyd mewn sachau du?
- Mae hyn yn peri i sachau ddrewi sy'n annog anifeiliaid i'w rhwygo gan greu llanast ar eich stryd.
- Caiff y gwastraff hwn ei gladdu o dan y ddaear mewn safleoedd tirlenwi lle mae'n pydru ac yn rhyddhau nwyon tŷ gwydr peryglus.