Cyn gwneud cais, ceisiwch ofyn am ragor o sachau gwyrdd a leinwyr bwyd wrth ymyl y ffordd gan ddefnyddio'r tag ailarchebu neu gwiriwch a oes gennych bwynt casglu lleol lle gallwch eu casglu'n gyntaf. Diolch.
Gwneud cais am fwy o finiau a sachau ailgylchu
Os nad ydych yn gallu casglu sachau a biniau o un o'n cyflenwyr lleol, gallwch ofyn iddynt gael eu cludo i'ch cartref. Sylwch y gall gymryd hyd at 21 diwrnod i'w dosbarthu.
Gwybodaeth am ble gallwch gasglu mwy o sachau ailgylchu'n bersonol
Gallwch archebu sachau ailgylchu pinc neu wyrdd, biniau gwastraff cegin mawr a bach, leinwyr gwastraff cegin a sachau gwastraff gardd.
Sylwer: Gallwch archebu uchafswm o 4 bag gwastraff gardd yn unig.