Toglo gwelededd dewislen symudol

Castell Abertawe erbyn heddiw

Er bod y castell yng nghysgod yr adeiladau o'i gwmpas erbyn heddiw, mae'n parhau i oroesi yng nghalon y ddinas.

Swansea Castle today

Swansea Castle today
Efallai mai'r nodwedd fwyaf trawiadol yw'r paraped cain gyda'r rhes o fwâu a ychwanegwyd oddeutu'r flwyddyn 1330 - ychwanegiad ysblennydd i dynnu sylw pawb. Dyma nodweddion eraill i chwilio amdanynt:

  • Y gwaith cerrig nadd a gerfiwyd o garreg galch Sutton a gloddiwyd gerllaw Aberogwr.
  • Yr holltau tal ar siâp croes, o'r enw agennau saethu, ym mur deheuol y castell, yn ogystal â'r porthdyllau gwn a ychwanegwyd yng nghanol y 14eg ganrif.
  • Y brif fynedfa i'r castell a arferai fod i fyny rhes o risiau o'r cwrt - wedi eu dynodi mewn cerrig yn y pafin yn awr.

Mae teithiau y tu mewn i'r castell yn caniatáu i chi ddarganfod rhagor o gyfrinachau'r castell.

Close Dewis iaith