Cau llwybrau troed dros dro
Cau llwybrau troed dros dro ar gyfer gwaith ffordd neu er mwyn osgoi perygl i'r cyhoedd.
Cais i gau llwybr dros dro Cais i gau llwybr dros dro
Dyddiad dechrau a hyd | Disgrifiad | Llwybr troed yr effeithir arni | Hysbysiad |
---|---|---|---|
Dydd Llun 6 Hydref 2025 | Am gyfnod o 11 wythnos, neu os bydd y gwaith wedi'i gwblhau'n gynt na hynny, hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau. | Hysbysiad - Llwybr yr Arfordir (a llwybrau mynediad) rhwng Limeslade a Rotherslade (MU2)
Rhaid cau'r llwybr hwn am resymau iechyd a diogelwch wrth i'r gwaith gael ei gyflawni i wneud gwelliannau i arwyneb llwybr yr arfordir. | Llwybr yr Arfordir rhwng Limeslade a Rotherslade (MU2) - hysbysiad (Word doc, 43 KB) |
Dydd Llun 15 Medi 2025 | Am gyfnod o 4 mis neu lai, os caiff y gwaith ei gwblhau'n gynharach. | Hysbysiad - Clydach (llwybr halio'r gamlas / llwybr troed 42) Llwybr halio'r gamlas o'i gyffordd â'r Llwybr Teithio Llesol ar ffin orllewinol y gwaith (tua'r de o rif 31 Y Stryd Fawr), tua'r dwyrain am 500 metr i Ynyspenllwch Road, ac yna ar draws y ffordd am 80 metr arall. Rhaid cau'r llwybr er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw a charthu'r gamlas. | Cau llwybr troed dros dro - Clydach (llwybr halio’r gamlas / llwybr troed 42) - hysbysiad (Word doc, 79 KB) |
Dydd Gwener 22 Awst 2025 | Ar gyfer 21 niwrnod (neu nes y cwblheir y gwaith, p'un bynnag fydd gyntaf). Rhagwelir y bydd angen 10 diwrnod i gwblhau'r gwaith. | Hysbysiad - cau ffordd dros dro, Heol Maes Eglwys / Llanllienwen Close, Cwmrhydyceirw Er mwyn i Asiant Cefnffyrdd De Cymru wneud gwaith i adnewyddu pont. | Hysbysiad a chynllun - Heol Maes Eglwys / Llanllienwen Close, Cwmrhydyceirw (PDF, 611 KB) |