Toglo gwelededd dewislen symudol

Cefnogaeth i ofalwyr ddi-dal

Gall gofalwyr di-dal gael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gan nifer o sefydliadau lleol, gan gynnwys y gwasanaethau cymdeithasol a Chanolfan Gofalwyr Abertawe.

Mae gan Abertawe Ganolfan Gofalwyr sef y man galw cyntaf yn aml i ofalwyr nad ydynt yn siŵr lle i ddod o hyd i'r gefnogaeth mae ei hangen arnynt. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) a nifer o sefydliadau sector gwirfoddol hefyd yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwasanaethau i ofalwyr ddi-dal.

 

Ai gofalwr di-dal ydych chi?

Oes rhywun sy'n methu ag ymdopi heb eich cymorth? Perthynas oedrannus, plentyn neu oedolyn anabl, rhywun a phroblem cyffuriau neu alcohol, rhywun ag anawsterau iechyd meddwl neu rhywun a phroblem iechyd hir dymor? Os felly, rydych yn ofalwyr ddi-dal, ac nid ydych ar eich pen eich hun.

Gofalwr di-dal yw rhywun sy'n gofalu am berthynas neu ffrind na all ymdopi gartref heb help oherwydd salwch meddyliol neu gorfforol neu anabledd a / neu henaint. Mae'r help maent yn ei ddarparu'n ddi-dâl.

Daw'r rhan fwyaf o'r help sy'n cael ei dderbyn gan bobl yn y gymdeithas sydd angen cefnogaeth oddi wrth ffrindiau neu berthnasau sy'n gweithredu fel gofalwyr di-dal. Mae llawer o'r rhain yn blant a phobl ifanc.

Fel gofalwr di-dal, mae eich gwaith yn anodd ac yn drwm iawn. Gall y pwysau corfforol ac emosiynol sy'n rhan o ofalu am rywun arall arwain at straen, ynysu a hyd yn oed salwch (meddyliol neu gorfforol). Dylid cydnabod eich anghenion chi am help a chefnogaeth hefyd.

Gall pob un o'r sefydliadau ar y dudalen hon, yn eu ffyrdd gwahanol, eich helpu yn eich rôl ofalu. Gall rhai o'r pethau maen nhw'n eu darparu gynnwys:

  • ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles
  • mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig
  • gwasanaeth cwnsela
  • gofal seibiant
  • cymorth cyflogaeth
  • mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia

Os nad ydych yn gwybod ble i ddechrau, gall Canolfan gofalwyr Abertawe eich helpu chi.

Os ydych yn edrych am cymorth gyda egwyl byr neu gofal seibiant, gweld Rhaglen Amser 2023-25 - Carers Trust (carers.org) (Yn agor ffenestr newydd).

Ffynonellau cyngor pellach i ofalwyr

Sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig mwy o gyngor a chefnogaeth i chi.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.
Close Dewis iaith