Toglo gwelededd dewislen symudol

Roedd strydoedd Abertawe'n llawn llawenydd neithiwr yn ystod digwyddiad blynyddol Gorymdaith y Nadolig Abertawe

Dechreuodd Siôn Corn y dathliadau yn Neuadd y Ddinas drwy oleuo'r adeilad yn goch ac yn wyrdd cyn gadael am y cyntaf o ddau arddangosiad tân gwyllt disglair.

santa parade 2025

Gwnaeth diddanwyr syfrdanu'r dorf ar y llwyfan adloniant o flaen Neuadd y Ddinas.

Roedd llif nodedig o fflotiau goleuedig, grwpiau cymunedol, bandiau gorymdeithio a chymeriadau dros ben llestri. Roedd y diddanwyr proffesiynol yn cynnwys: Spark! sef y band sy'n goleuo, Winter Wonderland Birds ac, yn newydd ar gyfer 2025, y glôb eira byw, sef glôb eira rhyngweithiol a oedd yn cynnwys brenhines eira mewn byd llawn swyn y gaeaf. Yn ogystal, aeth fflôt gyfareddol gwrachod Oz, lle roedd y wrach dda'n gwisgo dillad pinc a'r wrach ddrwg yn gwisgo dillad gwyrdd, heibio i filoedd o bobl fodlon.

Aeth yr orymdaith ar hyd St Helen's Road a Ffordd y Brenin cyn i Siôn Corn gyrraedd y prif lwyfan, a noddwyd gan siopau Specsavers yn Abertawe a'r Mwmbwls, lle bu Kev Johns MBE yn diddanu pawb yn y cyfamser. Ar ôl i Siôn Corn oleuo'r goeden Nadolig anferth a chynnau goleuadau Nadolig y ddinas, dechreuodd yr ail arddangosiad tân gwyllt. Yna parhaodd yr orymdaith ar hyd ei llwybr, gan lenwi'r strydoedd â lliw, cerddoriaeth a hwyl yr ŵyl.

Roedd y gymuned wrth wraidd y digwyddiad unwaith eto wrth i fwy na 40 o grwpiau cymunedol lleol gymryd rhan yn yr orymdaith, gan gynnwys Mellin Theatre Arts, One Heart Drummers a Bonymaen Kids Play Initiative.

Meddai'r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Daeth Abertawe'n fyw heno wrth i filoedd o bobl ymuno â ni ar gyfer Gorymdaith y Nadolig. Mae'r digwyddiad nodedig hwn yn un o uchafbwyntiau cyfnod yr ŵyl ac rwy'n hynod falch o'r ymdrech a'r creadigrwydd a'i gwnaeth yn bosib. Hoffwn ddiolch i bawb a fu'n bresennol a phawb a wnaeth drefnu'r orymdaith a chyfranogi ynddi.

"Roedd hwn yn ddigwyddiad bendigedig arall a drefnwyd gan Gyngor Abertawe, ac roedd yn ddathliad gwych o ysbryd cymunedol Abertawe ac yn ffordd wych o ddechrau'r Nadolig gyda'n gilydd."

Mae llawer o bethau i'w gwneud a'u gweld yn Abertawe dros y Nadolig. Ewch i  www.croesobaeabertawe.com/nadolig-abertawe/ i ddarganfod rhagor o weithgareddau difyr yn ystod yr ŵyl.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Tachwedd 2025