Toglo gwelededd dewislen symudol

Chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad

Darllenwch fwy am ein drenydd o chwynladdwyr sy'n cynnwys glyffosad.

Beth yw glyffosad?

Glyffosad yw'r sylwedd actif mewn nifer o chwynladdwr ac fe'i defnyddir yn eang ar draws y byd. Dyma'r sylwedd mwyaf effeithiol i reoli rhywogaethau ymledol ac mewn rhai achosion, dyma'r unig sylwedd sy'n effeithiol.

Pam mae rheoli chwyn yn angenrheidiol?

Mae rheoli chwyn mewn mannau amwynder megis palmentydd stryd a llwybrau troed yn wasanaeth hanfodol a ddarperir ar ran y gymuned leol. Mae rhaglen rheoli chwyn gyson ac o ansawdd da yn lleihau'r perygl o lithro neu faglu a phroblemau mynediad posib, yn lleihau'r difrod a achosir i arwynebau trefol gan dyfiant gwreiddiau ac yn gwella'r apêl esthetig.

Sut mae'r defnydd o glyffosad yn cael ei fonitro a'i reoli?

Ystyrir y risgiau sy'n gysylltiedig â'r defnydd o blaleiddiaid mewn mannau amwynder megis parciau yn benodol fel rhan o'r broses ganiatáu. Gosodir amodau defnydd y gellid eu gorfodi'n gyfreithlon ar y ffordd y gellir defnyddio cynhyrchion i sicrhau nad yw'r cyhoedd yn dod i gysylltiad â chwynladdwyr ar lefel a allai gael effaith niweidiol ar eu hiechyd neu gael effaith annerbyniol ar yr amgylchedd. Mae defnydd adrannau parciau o'r cynnyrch wedi'i dargedu a dim ond gweithredwyr cymwys ac awdurdodedig sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth i'w ddefnyddio'n unol â'r amodau a nodir sy'n ei ddefnyddio.

Oes angen unrhyw gymwysterau i ddefnyddio glyffosad yn broffesiynol?

Mae cyfraith y DU yn mynnu bod gan weithredwyr gymwysterau NPTC PA1 a PA6 o leiaf i ddefnyddio glyffosad yn broffesiynol. Mae hyfforddiant yn canolbwyntio ar ddefnyddio, storio a thrin plaleiddiaid yn ddiogel, ac mae pwyslais ar dechnegau sy'n lleihau defnydd a drifft i ffwrdd o'r targed. Mae gan holl weithwyr Cyngor Abertawe sy'n defnyddio'r cynnyrch gymwysterau addas.

Beth yw'r gofynion o ran cyfarpar amddiffyn personol er mwyn defnyddio glyffosad?

Er bod cemeg cynhyrchion glyffosad yn amrywio, nodir y gofynion penodol o ran cyfarpar amddiffyn personol ar label y cynnyrch bob amser. Er mwyn defnyddio cynnyrch gwan (e.e. mewn man amwynder) mae angen gwisgo cyfanwisg, ond gall defnyddio atebion peirianneg (megis chwistrellau drifft isel) olygu nad oes angen menig na chyfarpar amddiffyn personol.

Rwyf wedi darllen bod glyffosad yn niweidiol i iechyd pobl, felly a yw'n ddiogel i'r cyngor ei ddefnyddio?

Ydy. Mae glyffosad wedi bod yn destun cannoedd o dreialon clinigol, sydd wedi dod i'r casgliad bod glyffosad yn ddiogel pan fydd yn cael ei ddefnyddio'n ôl yr argymhellion ar y label. Mae gan nifer o nwyddau cartref cyffredin lefel uwch o wenwyndra na glyffosad, gan gynnwys halen cyffredin, caffein ac ibuprofen.

Cyhoeddodd Pwyllgor Asesu Risg yr Asiantaeth Gemegion Ewropeaidd (RAC ECHA) ganlyniadau eu hadolygiad diweddaraf ar 30 Mai 2022. Ni argymhellodd y Pwyllgor Asesu Risg unrhyw newid i ddosbarthiad Glyffosad. Cytunwyd nad oedd rheswm gwyddonol i newid dosbarthiad Glyffosad. Yn seiliedig ar adolygiad eang o dystiolaeth wyddonol, daeth y pwyllgor i'r casgliad unwaith eto nad oes cyfiawnhad dros ddosbarthu Glyffosad fel carsinogen. Bydd y cynnyrch wedi'i fformiwleiddio yn parhau i gael ei ddosbarthu fel cynnyrch nad yw'n beryglus. 

Pam mae'r cyngor yn defnyddio glyffosad ond nid yw'n defnyddio unrhyw chwynladdwyr eraill?

Defnyddio glyffosad yw'r dull mwyaf effeithlon a chost effeithiol o drin chwyn cyffredin o bell ffordd. Mae rhai dulliau amgen yn cael eu defnyddio, ond nid ydynt mor werthfawr nac effeithlon â chwynladdwyr systemig (glyffosad yn benodol), yn enwedig wrth ystyried nifer y palmentydd stryd y mae angen eu trin. Yn ogystal, mae dulliau amgen (e.e. stêm) yn aml yn cynyddu ôl troed carbon yn sylweddol.

A yw glyffosad yn cael ei ddefnyddio mewn mannau amwynder?

Defnyddir chwynladdwyr yn gyfrifol mewn mannau amwynder, ac fel rhan o raglen rheoli integredig yn unig. Gallant helpu i sicrhau buddion sylweddol i'r gymdeithas, sy'n cynnwys: ardaloedd cadwraeth, rhywogaethau ymledol a risgiau o lifogydd sydd wedi'u rheoli; cyfleusterau chwaraeon o safon; a mannau cyhoeddus, safleoedd diwydiannol ac isadeiledd trafnidiaeth diogel (er enghraifft, drwy rwystro chwyn rhag tyfu ar arwynebau caled a chreu perygl o faglu). Mae adrannau parciau yn defnyddio'r cynnyrch yn bennaf er mwyn rheoli rhywogaethau ymledol megis canclwm a sicrhau diogelwch, fel y disgrifir uchod, fel rhan o raglen waith a arolygir yn gyson. Mae defnydd adrannau parciau o'r cynnyrch wedi'i dargedu a dim ond gweithredwyr cymwys ac awdurdodedig sydd â'r sgiliau a'r wybodaeth i'w ddefnyddio'n unol â'r amodau a nodir sy'n ei ddefnyddio.

Beth mae'r cyngor wedi'i wneud i leihau defnydd o glyffosad?

Mae'r cyngor wedi lleihau defnydd o'r sylwedd yn sylweddol trwy beidio â'i ddefnyddio at ddibenion cosmetig ac effeithlonrwydd, megis o amgylch arwyddion ac eiddo arall ar ymyl y ffordd. Caiff yr ardaloedd hyn eu strimio erbyn hyn.

Pryd y gall pobl neu anifeiliaid anwes ddefnyddio'r man ar ôl i'r chwynladdwr gael ei ddefnyddio?

Gellir ei ddefnyddio'n syth - nid oes angen rhwystro mynediad at fan sydd wedi'i drin yn ddiweddar â glyffosad dan amodau defnydd arferol.

Dolenni defnyddiol ac adnoddau:

Close Dewis iaith