Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Gymunedol y Clâs

Heol Longview, y Clâs, Abertawe, SA6 7HH. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd ac mae'n un o Leoedd Llesol Abertawe.

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Banciau bwyd

  • Ar agor dydd Mercher 10.00am - 11.00am

Bydd angen i ni weld prawf o galedi neu gyfeiriad.

Rhoddion: Gall aelodau'r cyhoedd adael rhoddion yn y ganolfan.

E-bost: treez-r@hotmail.com

Lle Llesol Abertawe - Clase4All

Dydd Mercher 9.00am - 12.00pm, Bore Coffi

Mae ein boreau coffi'n groesawgar a chalonogol. Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o fwydydd poeth ac oer am brisiau fforddiadwy a the a choffi diderfyn am ddim. Mae croeso i bawb.

  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau
  • Mannau parcio ceir
  • Teganau i blant
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael
    • Rydym yn gweini bwyd poeth ac oer o 9.00am i 12.00pm am gost isel, popeth yn £1.50. Mae hyn yn cynnwys paninis, brechdanau wedi'u tostio a grawnfwydydd.
    • Mae grawnfwyd am ddim i blant.
    • Mae diodydd am ddim gan gynnwys diodydd poeth.
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
  • Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
    • Bob mis rydym yn cynnal sesiwn galw heibio gan sefydliad gwirfoddol lle gall preswylwyr gael cyngor a chefnogaeth. Caiff y sesiynau galw heibio misol eu rhannu ar ein tudalen Facebook.

Facebook: https://www.facebook.com/InvestLocalClase
E-bost: Clase4allstrongertogether@gmail.com

Cynhyrchion mislif am ddim

  • Dydd Mercher 9.00am - 12.00pm

Cyfleusterau

  • Prif neuadd
  • Neuadd chwaraeon
  • Ystafell gyfarfod
  • Cegin
  • Parcio (cyfyngedig) 

Cyrraedd y ganolfan

Enw
Cyswllt - Doreen Bell
Rhif ffôn
01792 411539

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024