Toglo gwelededd dewislen symudol

Banciau bwyd a chefnogaeth

Lleoliadau, amserau agor a gwybodaeth am sut i gael mynediad at fanciau bwyd yn Abertawe. Mae hefyd wybodaeth i bobl sydd am roi nwyddau i fanc bwyd.

Croesewir rhoddion - rhestrir manylion ynghylch sut i roi nwyddau yn yr wybodaeth am bob banc bwyd isod.

Mae banciau bwyd a phrosiectau cymorth bwyd a restrir ar y dudalen hon wedi'u cofrestru â Chyngor Abertawe ac maent naill ai wedi cael o leiaf 3 ar y Sgôr Hylendid Bwyd, neu maent yn aros i gael eu harchwilio.

Ewch i'r Asiantaeth Safonau Bwyd i gael rhagor o wybodaeth am Sgôr Hylendid Bwyd.

 

Mae'r rhan fwyaf o fanciau bwyd yn defnyddio talebau a/neu system atgyfeirio, felly peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro rhag defnyddio'r help hwn pan fyddwch mewn angen. Bydd yr asiantaethau sy'n gallu'ch helpu i gael taleb neu atgyfeiriad hefyd yn gallu'ch helpu drwy ddarparu cefnogaeth ychwanegol, gan gynnwys cael gafael ar gyngor  ar fudd-daliadau a dyledion. Gall unrhyw un wynebu argyfwng, felly peidiwch â theimlo cywilydd os ydych yn gofyn am help. Mae'r ap 'Hope in Swansea' yn ffordd ddefnyddiol o ddod o hyd i'r help sydd ar gael er mwyn cael gafael ar fwyd ar y diwrnod y mae ei angen arnoch.

Ni chaiff y sefydliadau a restrir, a'r gwasanaethau a ddarperir gan y sefydliadau hynny, eu rheoli na'u llywodraethu gan Gyngor Abertawe ac nid oes gan Gyngor Abertawe reolaeth dros natur, cynnwys neu argaeledd y safleoedd hynny. Nid yw cynnwys unrhyw ddolenni'n golygu ein bod yn argymell neu'n cefnogi'r sefydliad hwnnw. Nid yw'r cyngor yn atebol am unrhyw weithred neu ddiffyg gweithred gan y sefydliadau a restrir.

Adrodd am newid neu wneud cais i ychwanegu gwasanaeth Banciau bwyd a chymorth - adrodd am newid neu wneud cais i ychwanegu gwasanaeth

Banc Bwyd Gogledd Gŵyr

Ardal Gŵyr yn unig. Dosbarthu parseli bwyd (dydd Gwener), dim gwasanaeth casglu.

Banc bwyd Abertawe, Clydach

Ar agor dydd Mawrth 10.00am - 12 ganol dydd.

Banc bwyd Abertawe, Gorseinon

Ar agor dydd Iau 10.00am - 12 ganol dydd.

Banc bwyd Abertawe, LifePoint Church

Ar agor ddydd Gwener o 11.00pm i 1.00pm.

Banc bwyd Abertawe, Mayhill

Ar agor dydd Iau 1.00pm - 3.00pm.

Banc bwyd Abertawe, Pen-lan

Ar agor dydd Gwener 9.30am - 12.30pm.

Banc bwyd Abertawe, West Cross

Ar agor dydd Llun 12.30pm - 2.30pm.

Banc bwyd Byddin yr Iachawdwriaeth

Er mwyn derbyn cymorth, bydd angen i chi ffonio ar ddydd Mercher rhwng 9.30am a 12.00 ganol dydd.

Banc bwyd Eastside

Ar agor ar ddydd Gwener o 10.45am. Yn cau pan fydd y pecynnau a drefnwyd ymlaen llaw wedi'u dosbarthu.

Banc bwyd Gellifedw

Ar agor dydd Mercher a dydd Gwener 12.00pm - 2.00pm.

Banc bwyd Mosg Abertawe

Ar agor ddydd Sul 12.45pm - 1.45pm, drwy ein cynllun cyfeirio talebau.

Banc bwyd Pontarddulais

Ar agor Dydd Mercher 12.00pm - 4.00pm (ac am awr bob dydd ar gyfer argyfyngau am gyhyd â phosib - heb gynnwys penwythnosau).

Banc bwyd SOS Shelters Wales a mwy

Man rhannu bwyd ar agor o 1.00pm i 3.00pm bob dydd Mawrth. Banc bwyd ar agor o 1.00pm i 3.00pm bob yn ail ddydd Mawrth (o 9 Ionawr 2024).

Banc bwyd Sgeti

Ar agor ddydd Mercher o 12.00 ganol dydd i 2.00pm.

Banc bwyd St Thomas Abertawe

Ar agor dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener 10.00am - 1.00pm.

Banc bwyd y Clâs

Ar agor dydd Mercher 10.00am - 11.00am.

Canolfan Galw Heibio Blaen-y-maes

Mae'r fenter rhannu bwyd ar gael rhwng 10.00am a 2.00pm bob dydd Mawrth, a dydd Gwener.

Cefnogi Ceiswyr Lloches Abertawe

Yn cynnig cefnogaeth i geiswyr lloches a ffoaduriaid.

City Church Abertawe

Oriau agor Dydd Llun a dydd Gwener 10.00am (rhannu bwyd), Dydd Sadwrn 11.30am - 12.30pm (pryd clydfwyd twym).

Hwb Tŷ Fforest

Ar agor ar adegau amrywiol.

Missionaries of Charity of Mother Teresa Trust

Darperir pryd am ddim i bobl ddigartref neu ddiamddiffyn rhwng 3.00pm a 4.00pm ar ddydd Sul, dydd Mercher a dydd Gwener.

Oergell Gymunedol Abertawe

Ar agor dydd Mercher 12.30pm - 2.30pm.

Ogof Adullam

Canolfan galw heibio sy'n cynnig lloches i unigolion sy'n profi digartrefedd a dibyniaeth ar alcohol a chyffuriau yn ogystal â darparu pwynt cyswllt ar gyfer y rheini sy'n gadael y carchar a cheiswyr lloches.

Tŷ Matthew

Ar agor dydd Llun a dydd Mawrth 11.30am - 1.45pm. Dydd Sul 7.00pm - 8.45pm.

Undod mewn Amrywiaeth

Yn darparu bwyd, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ardal Abertawe.

Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE)

Gwasanaeth dosbarthu ar ddydd Mawrth a dydd Gwener.

Zac's Place

Ar agor ar ddydd Iau a dydd Gwener rhwng 11.30am ac 1.00pm ar gyfer prydau cludfwyd.
Close Dewis iaith