Eglwys y Santes Fair, Canol Abertawe
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Ar y safle - brecwast
- Dydd Mercher, 9.00am - 11.00am (darperir gan Tŷ Matthew)
Does dim angen atgyfeiriad, galwch heibio.
Lle Llesol Abertawe
Ar agor bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sadwrn fel 'lle cynnes' rhwng 10.30am a 2.30pm
Lle tawel i chi eistedd, benthyca llyfrau a chael sgwrs os hoffech wneud hynny. Mae croeso cynnes bob amser.
- Mae lluniaeth ar gael
- diodydd poeth, diodydd a byrbrydau ar gael i'w prynu
- Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau / papurau newydd a chylchgronau
Mindset Vitality
Cynhelir ein Grŵp Cyfeillgarwch Profedigaeth ar ddydd Mercher cyntaf a thrydydd dydd Mercher y mis (ac eithrio mis Ionawr 2025, lle cynhelir y grŵp ar ail ddydd Mercher a phedwerydd dydd Mercher mis Ionawr).
Cynhelir ein Grŵp Cyfeillgarwch Profedigaeth Abertawe dwywaith y mis ac mae'n darparu lle diogel i oedolion sy'n profi profedigaeth rannu eu teimladau, dysgu am strategaethau a meithrin perthnasoedd gyda phobl sy'n deall pa mor anodd yw galaru.
Lluniaeth am ddim - te a bisgedi
Cyfleusterau'r lleoliad
- WiFi am ddim
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Ardal chwarae i blant / teganau i blant
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain