Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys y Santes Fair, Canol Abertawe

Eglwys yng nghanol y ddinas. Mae croeso i bawb. Mae'r eglwys hefyd yn un o Leoedd Llesol Abertawe ac mae'n cynnig prydau'n wythnosol.

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Ar y safle - brecwast

  • Dydd Mercher, 9.00am - 11.00am

Does dim angen atgyfeiriad, galwch heibio.

Lle Llesol Abertawe

Ar agor bob dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sadwrn fel 'lle cynnes' rhwng 10.30am a 2.30pm

Lle tawel i chi eistedd, benthyca llyfrau a chael sgwrs os hoffech wneud hynny. Mae croeso cynnes bob amser.

  • Mae lluniaeth ar gael
    • diodydd poeth, diodydd a byrbrydau ar gael i'w prynu
  • Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau / papurau newydd a chylchgronau

Mindset Vitality

Cynhelir ein Grŵp Cyfeillgarwch Profedigaeth ar ddydd Mercher cyntaf a thrydydd dydd Mercher y mis (ac eithrio mis Ionawr 2025, lle cynhelir y grŵp ar ail ddydd Mercher a phedwerydd dydd Mercher mis Ionawr).  

Cynhelir ein Grŵp Cyfeillgarwch Profedigaeth Abertawe dwywaith y mis ac mae'n darparu lle diogel i oedolion sy'n profi profedigaeth rannu eu teimladau, dysgu am strategaethau a meithrin perthnasoedd gyda phobl sy'n deall pa mor anodd yw galaru.

Lluniaeth am ddim - te a bisgedi

Cyfleusterau'r lleoliad

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
  • Ardal chwarae i blant / teganau i blant
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain

Cyfeiriad

Sgwâr y Santes Fair

Abertawe

SA1 3LP

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Rhif ffôn

07881 501 292
Dim rhagor ar gael

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu