Toglo gwelededd dewislen symudol

Eglwys Parklands

Fe'i lleolir yn Sgeti ac mae'r eglwys yn gartref i Fanc Bwyd Sgeti. Mae hefyd yn Lle Llesol Abertawe.

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Banc bwyd - Banc bwyd Sgeti

Parseli bwyd - casgliad:

  • Dydd Mercher, 11.30am - 1.00pm

Ni fyddwn yn prosesu unrhyw geisiadau am barseli bwyd (dros y ffôn neu e-bost) ar ôl 1.00pm ar ddydd Mercher. Bydd unrhyw geisiadau ar ôl 1.00pm ar ddydd Mercher yn cael eu prosesu'r wythnos ganlynol.

Pwy sy'n gallu helpu

Rydym yn partneru ag asiantaethau cefnogi yn Abertawe sy'n cyfeirio pobl y mae angen parseli bwyd arnynt ar frys atom. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, Cydlynwyr Ardaloedd Lleol, Cyngor Abertawe, ymwelwyr iechyd, practisiau meddygon teulu, ysgolion ac eglwysi. Mae'r asiantaethau cefnogi hyn hefyd yn darparu arweiniad a help mewn meysydd eraill fel cefnogaeth iechyd meddwl, arweiniad ar fudd-daliadau neu gyngor ar ddyled.

Er bod yn well gennym weithio drwy asiantaethau cefnogi, rydym yn derbyn pobl nad oes ganddynt atgyfeiriad. Rydym bob amser yn darparu nifer cyfyngedig o becynnau bwyd brys i bobl sy'n galw heibio ond rydym hefyd yn eu hannog i gysylltu ag asiantaeth gefnogi fel y byddant yn cael help ychwanegol hefyd. Os oes banc bwyd arall yn agosach i'r man lle'r ydych yn byw, byddwn yn eich atgyfeirio fan yna.

Os ydych wedi'ch cofrestru ar hyn o bryd gydag asiantaeth gefnogi, byddant yn archebu pecyn bwyd ar eich rhan. Os oes gennych argyfwng, gallwch ein ffonio'n uniongyrchol neu anfon neges atom ar Facebook. Gallwn awgrymu asiantaeth sy'n gallu darparu cefnogaeth tymor hwy i chi yn ôl yr angen.

Rhoddion: Gall aelodau'r cyhoedd adael rhoddiion yn Eglwys Parklands ar ddydd Mawrth rhwng 4.00pm - 6.00pm a ddydd Mercher 10.00am - 3.30pm. Mae basgedi casglu hefyd yn siop CK's ym Mharc Sgeti, y Co-op wrth Groes Sgeti a'r Co-op yn Nhŷ-coch.

Cyswllt:

Lle Llesol Abertawe

Galwch heibio: dydd Gwener, 12.00pm - 3.00pm

Croeso cynnes, gweithgareddau fel cwis neu ganu.

  • WiFi am ddim
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
  • Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl
  • Teganau i blant
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Mae lluniaeth ar gael
    • te, coffi, creision a bisgedi
    • rydym hefyd yn darparu pryd o fwyd cynnes, sglodion gyda rhywbeth arall
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain

Cynhyrchion mislif am ddim - Banc bwyd Sgeti

  • Dydd Mawrth, 4.00pm - 6.00pm
  • Dydd Mercher, 9.30am - 3.00pm
Enw
Eglwys Parklands
Cyfeiriad
  • Maes Y Gollen
  • Sgeti
  • Abertawe
  • SA2 8HQ
Gwe
http://www.parklandschurch.org.uk
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 23 Medi 2024