Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Mae'r mannau casglu hefyd yn fannau rhodd lle gallwch roi cynhyrchion a chefnogi gwaith STOPP. Mae angen padiau, tamponau a phadiau leinin ysgafn o bob siâp a maint arnynt.
Ysgolion
Mae holl ysgolion uwchradd y ddinas wedi derbyn pum becyn o badiau di-blastig i bob merch fynd adref â nhw bob tymor ysgol, gyda rhagor o gyflenwadau'n cael eu cadw mewn ysgolion ac ar gyfer ysgolion cynradd.
Yr amgueddfa hynaf yng Nghymru lle gallwch ddarganfod hanes diwydiannol, morol a diwylliannol Abertawe. Bydd y ddolen hon yn mynd â chi i wefan allanol.
Mae CETMA (Ymgysylltu â'r Gymuned, Technoleg, y Cyfryngau a'r Celfyddydau) yn fenter gymdeithasol sy'n darparu cyfleoedd ymgysylltu cymdeithasol, hyfforddiant, iechyd a lles drwy ddatblygu prosiectau cynaliadwy unigryw ar gyfer unigolion, sefydliadau a busnesau. Maent hefyd yn darparu pecynnau bwyd mewn argyfwng.
Canolfan gymunedol sy'n cael ei rheoli gan wirfoddolwyr, gan gynnig amrywiaeth o gyfleoedd a chefnogaeth i gymuned Pontarddulais. Mae gan y ganolfan gymunedol hon fanc bwyd hefyd.
Y ganolfan gymunedol ar gyfer Townhill, Mayhill a'r Gors. Gwneud y bryn yn lle cyfoethocach, iachach, hapusach a mwy diogel i fyw ynddo - siop dan yr unto ar gyfer datblygu ein cymuned leol. Cynigir cymorth bwyd trwy'r siop gymunedol.
Mae'n darparu cyfleoedd i blant a'u teuluoedd gael hwyl, rhoi cynnig ar bethau newydd, gwneud ffrindiau, dysgu, tyfu a datblygu mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
Mae'r Gymdeithas Tsienieaidd yng Nghymru (CIWA) yn sefydliad elusennol sy'n ceisio darparu gwasanaethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau preswylwyr Tsieneaidd ethnig yng Nghymru.
Mae Eglwys Gymunedol Bont Elim yn estyn croeso cynnes i bawb, waeth beth bynnag fo'ch cefndir, o ble rydych chi'n dod a beth bynnag rydych chi'n ei gredu. Mae modd rhannu bwyd yn yr eglwys hefyd.
Fe'i lleolir yn West Cross, ac mae'r eglwys yn gartref i Brosiect Cymunedol Red, sy'n cynnal amrywiaeth o brosiectau i bobl ar draws y ddinas. Mae hefyd yn lleoliad Banc Bwyd Abertawe ac yn Lle Llesol Abertawe croesawgar.
Fferm Gymunedol Abertawe yw'r unig fferm ddinesig yng Nghymru, a chaiff ei chynnal gan y gymuned, i'r gymuned. Mae pantri cymunedol bach hefyd ar gael i'r rheini mewn angen.
Yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, mentora ac arweiniad i fenywod o bob cefndir ac oed ar draws de Cymru. Mae hefyd yn darparu gwasanaeth banc bwyd wythnosol.
Maent yn darparu man diogel, cynhwysol i bobl gael mynediad at eiriolaeth, celfyddydau creadigol, technoleg ddigidol, addysg, cymorth cyflogaeth, hyfforddiant, gweithgareddau ymgyrchu a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar degwch a pherthyn.
Fe'i lleolir yng nghanol Abertawe ac mae ganddo gymuned amrywiol ac amlddiwylliannol iawn. Mae'r mosg mwyaf yng Nghymru hefyd yn gartref i fanc bwyd i bobl mewn angen.
Mae Mosg a Chanolfan Gymunedol Sgeti yn cynnig cymysgedd o leoedd modern a thraddodiadol wedi'u clustnodi ar gyfer gweithgareddau Islamaidd a chymdeithasol.
Mae Prosiect Datblygu Congolaidd yn cynorthwyo newydd-ddyfodiaid yn Abertawe - gan hwyluso eu proses bontio a hwyluso'r broses o'u hintegreiddio i fywyd newydd.
Adeilad cynnes a chroesawgar yng nghanol Abertawe yw Tŷ Matthew, ac mae'n hygyrch i'r rheini sy'n ddigartref neu'n agored i niwed yn Abertawe. Darperir prydau twym ar gyfer y rheini sydd mewn angen.