Banc bwyd Mosg Abertawe
Ar agor ddydd Sul 12.45pm - 1.45pm, drwy ein cynllun cyfeirio talebau.
Gwybodaeth
Os bydd angen i gleient gael mynediad at ein banc bwyd, rhaid iddo gael ei atgyfeirio gan sefydliad. Ewch i'n gwefan i gael y manylion llawn, gan gynnwys rhestr o sefydliadau atgyfeirio: https://www.swanseamosque.org/foodbank
Rydym yn derbyn e-byst oddi wrth ein partneriaid atgyfeirio, sy'n nodi gwybodaeth am gleientiaid ac sy'n cadarnhau eu bod yn hapus i'r banc bwyd dderbyn eu manylion personol.
Gofynnwn i'n partneriaid atgyfeirio anfon e-bost atom erbyn dydd Gwener yn foodbank@swanseamosque.org gyda'r wybodaeth ganlynol.
- enw llawn y cwsmer
- cyfeiriad
- rhif ffôn cyswllt
- nifer y bobl yn yr aelwyd, ac unrhyw ofynion dietegol arbennig.
Rydym yn darparu bwyd sych yn unig. Ewch i'n gwefan i weld y rhestr lawn o fwyd rydym yn ei ddarparu.
Rhoddion: Gall y rheini sydd am roi bwyd gysylltu â foodbank@swanseamosque.org a threfnu diwrnod i adael y bwyd neu roi rhodd ar ddydd Sadwrn rhwng 1.00pm a 2.00pm ym Mosg Abertawe.
- Enw
- Banc bwyd Mosg Abertawe
- Cyfeiriad
-
- Mosg Abertawe
- 159a St Helen's Road
- Abertawe
- SA1 4DG
- Gwe
- http://www.swanseamosque.org/foodbank
- E-bost
- foodbank@swanseamosque.org