Cwmni Buddiant Cymunedol: 'The Swansea Wellbeing Centre'
- Banciau bwyd a chefnogaeth
- Lle Llesol Abertawe
- Men's Shed
- Cynhyrchion mislif am ddim
- Cyfleusterau'r lleoliad
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
- Dydd Mawrth, 1.00pm - cinio tlodi bwyd am ddim
Lle Llesol Abertawe
Dydd Mawrth: 12.00pm - Ioga cymunedol
Mae lle ar gael gennym yn y cyntedd i ymwelwyr gyda Wi-Fi am ddim, te a choffi (am ddim neu gyfraniad) a hefyd fynediad am ddim i ddosbarthiadau'r rhaglen cynhwysiad cymunedol sydd naill ai am ddim neu am bris rhatach (gan gynnwys ioga cymunedol am ddim ar ddydd Mawrth am 12pm) ioga i fenywod ar ddydd Llun am 2.00pm, grŵp cerdded i fenywod ar ddydd Mawrth am 10.30am, ioga i fabanod ar ddydd Mercher am 11.00am, grŵp cerdded i ddynion yng nghiosg caffi The Secret ar ddydd Iau am 12.00pm)
Am ragor o fanylion ynghylch ein rhaglen gymunedol, ewch i: https://www.wellbeingswansea.co.uk/projects
- Mae lluniaeth ar gael
- am ddim neu gyfraniad
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
- Cyngor, gwybodaeth a chyfeirio
Men's Shed
Men's Shed - Dydd Gwener, 11.45am - 1.15pm
Mae'r grŵp i ddynion a gynhelir ar foreau Gwener yn cynnig lle agored cyson i ddynion o unrhyw oed a chefndir Byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes a chyfeillgar gan ein dau arweinydd grŵp profiadol, Dave a Phil. Mae croeso i bawb rannu awgrymiadau da, gwybodaeth a phrofiadau. Grŵp cefnogol, hamddenol na fydd yn rhoi pwysau arnoch, felly dewch â chi eich hun! Am ddim, galwch heibio.
Dosbarth T'ai Chi i ddynion - Dydd Gwener, 1.45pm - 2.45pm
Gan ddechrau drwy ymlacio'r corff a'r meddwl, gallwn weld sut i leihau lefelau gorbryder a bod yn rhydd o'n trafferthion drwy fod yn y fan a'r lle. Ar sail rhoddion.
Cyswllt: Mike Buckley mcmbuckley@gmail.com / 07931 986168
Cynhyrchion mislif am ddim
Cynnyrch mislif am ddim ar gael o'r toiled hygyrch 7 niwrnod yr wythnos o 9.00am i 7.00pm.
Cyfleusterau'r lleoliad
- WiFi am ddim
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Dŵr yfed ar gael
Cyfeiriad
1 Tŷ Sivertsen
Walter Road (mynediad ar Burman Street)
Abertawe
SA1 5PQ