Mae biniau sy'n cysylltu â'r rhyngrwyd yn ein helpu ni i gadw biniau gwledig yn daclus
Mae timau glanhau Cyngor Abertawe'n treialu ffordd newydd sbon o helpu i gadw cymunedau gwledig yn daclus.
Mae technoleg newydd sy'n cael ei threialu mewn cymunedau gwledig yn golygu bod biniau sbwriel llawn yn cael eu gwagio mewn pryd ac yn atal staff rhag teithio pellterau hir i wagio biniau sydd eisoes yn wag gan amlaf.
Mae synwyryddion clyfar newydd sydd wedi'u gosod ar y biniau'n anfon neges at staff y Gwasanaethau Glanhau yn dweud wrthynt ba mor llawn yw'r biniau, fel eu bod yn gwybod hyn heb orfod gweld y biniau eu hunain.
Meddai Cyril Anderson, Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Cymunedol, "Mae'r synwyryddion newydd yn golygu bod pawb ar eu hennill. I breswylwyr mae llai o siawns y byddant yn dod ar draws biniau sy'n gorlifo, ac i staff mae'n golygu y gallant ganolbwyntio ar fynd i'r afael â phroblemau gyda biniau a sbwriel yn yr ardaloedd hynny lle mae'r problemau mwyaf.
Meddai, "Mae'n gynnar yn y broses oherwydd rydym yn treialu'r cynllun o hyd. Ond mae'n edrych yn addawol iawn. Mae'r fenter hon yn rhan o'n hymrwymiad parhaus i bobl Abertawe lle'r ydym yn chwarae ein rhan i gadw'n strydoedd a'n cymunedau'n lân."
Meddai'r Cyng. Anderson, "Mae miloedd o finiau sbwriel yn Abertawe, felly rydym bob amser yn croesawu adroddiadau gan breswylwyr am finiau llawn gan y gallant fod yn llawn ar unrhyw adeg.
"Ond mae'r synwyryddion newydd yn ein helpu i wneud ein swyddi'n fwy effeithlon mewn ardaloedd gwledig, sy'n golygu y gallwn chwarae rôl well mewn gwneud ein rhan i gadw'n cymunedau'n lân."
Mae technoleg y synwyryddion biniau'n cynnwys rhwydwaith o'r enw LoRaWAN - Rhwydwaith Ardal Eang Pŵer Isel - sy'n galluogi cysylltedd diwifr rhwng dyfeisiau a rhwydweithiau dros bellterau hir heb ddefnyddio llawer o bŵer. Mae'r synwyryddion eu hunain wedi'u pweru gan fatris sy'n para hyd at wyth mlynedd.
Dywedodd Stuart Willingale, Arweinydd Tîm y Strategaeth Glanhau yn ein Tîm Parciau a Glanhau, fod y dechnoleg yn helpu i fonitro'r defnydd o finiau yn well mewn mannau gwledig, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n profi twristiaeth dymhorol.
Meddai Stuart,"Mae rhai o'n biniau mewn lleoliadau eithaf diarffordd fel Gŵyr, sydd cryn bellter o ble mae ein staff yn gweithio.
"Gall y defnydd o finiau amrywio'n fawr yn dibynnu ar y tywydd a'r adeg o'r flwyddyn. Er enghraifft, bydd bin ym Mhorth Einon yn agos at y traeth yn llenwi'n gyflymach o lawer ar ddiwrnod braf yn ystod yr haf nag y bydd ar ddiwrnod oer a gwlyb ym mis Chwefror.
"Mae'r data'n dweud wrthym pan fydd angen i'n Timau Glanhau ymweld â lleoliad i wagio bin, a phan nad oes angen gwneud hynny. Mae hyn yn arbed amser fel y gall ein timau ddefnyddio'u hamser yn well mewn lleoliadau eraill ac yn mynd i'r afael â materion glanhau eraill. Mae hefyd yn lleihau ein heffaith amgylcheddol oherwydd nad oes angen i ni yrru i leoliad i ganfod fod y bin eisoes yn wag."
"Rydym ar gamau cynnar y prosiect o hyd yn dilyn cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ond mae'r arwyddion cynnar yn galonogol."