Toglo gwelededd dewislen symudol

Côd Ymddygiad ar gyfer Hysbysiadau Cosb

Presenoldeb afreolaidd mewn ysgol / darpariaeth addysg amgen.

Sail gyfreithiol a rhesymeg

Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru (LlC) yn dweud ei bod yn ofyniad cyfreithiol i awdurdodau lleol (ALl) gydymffurfio â Deddf Addysg 1996, Adran 444, sy'n cynnwys hysbysiadau cosb fel un o'r ymyriadau i hyrwyddo presenoldeb ysgol gwell. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid rhoi 'sylw dyladwy' i'r canllawiau hyn ac mae disgwyl iddynt gael eu dilyn oni bai fod rheswm da dros wyro oddi  wrthynt (Dogfen Ganllaw 2013 t3).

 Mae presenoldeb prydlon rheolaidd disgyblion yn yr ysgol a darpariaethau amgen yn ofyniad cyfreithiol ac mae'n hanfodol i ddisgyblion fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt. Bydd hysbysiadau cosb yn helpu ALlau ac ysgolion i sicrhau bod rhieni/gofalwyr yn cyflawni'u cyfrifoldebau drwy sicrhau bod eu plant yn mynychu'r ysgol yn rheolaidd. Yn ôl y gyfraith, mae trosedd yn digwydd os yw rhiant neu ofalwr yn methu sicrhau presenoldeb rheolaidd ei blentyn yn yr ysgol/y ddarpariaeth amgen ac nid yw'r ysgol wedi awdurdodi'r absenoldeb hwnnw.

Yn ôl darpariaeth Adrannau 444A a 444B o Ddeddf Addysg 1996, gellir ymdrin ag achosion penodol o absenoldeb heb ganiatâd trwy hysbysiad cosb. Dirwy o hyd at £120 yw hysbysiad cosb a gellir ei roi i riant/ofalwr o ganlyniad i absenoldeb rheolaidd plentyn o'r ysgol/ddarpariaeth addysg.

Yr ALl sy'n bennaf gyfrifol am ddatblygu'r protocol ar gyfer gweithredu Hysbysiadau Cosb a bydd yn cefnogi ac yn cynnal y cyfrifoldeb hwn. Gall penaethiaid, gan gynnwys eu dirprwy awdurdodedig a'u penaethiaid cynorthwyol a'r heddlu ofyn am hysbysiad cosb mewn perthynas â rhiant neu ofalwr plentyn a chanddo absenoldeb anawdurdodedig o'r ysgol/ ddarpariaeth addysg amgen. Rhaid i hysbysiadau cosb gydymffurfio â holl ofynion y Ddeddf Hawliau Dynol a'r holl ddeddfwriaeth Cyfle Cyfartal.

Bydd yr ALl yn parhau i ymchwilio i achosion o bresenoldeb afreolaidd yn yr ysgol/ddarpariaeth addysg amgen ac yn dilyn gwaith achos priodol, a bydd yn cychwyn camau cyfreithiol os yw hynny'n briodol. Fodd bynnag, mae hysbysiadau cosb yn cynnig dull o ymyrryd yn gyflym y gall yr ALl ei ddefnyddio i ddelio â phroblemau diffyg presenoldeb rheolaidd cyn iddynt ymwreiddio. Bydd cyflwyno hysbysiadau cosb yn seiliedig ar feini prawf trothwy clir a fydd yn cael eu cymhwyso'n gyson ac yn gyfartal ar draws yr ALl. Rhaid i bob person sydd wedi'i awdurdodi i roi (a gofyn am roi) hysbysiad cosb gydymffurfio â'r canllawiau a nodir yn y côd ymddygiad hwn.

Materion cynhwysiad a chydraddoldeb  

Mae'r ALl wedi ymrwymo i godi cyflawniad pob disgybl yn barhaus. Disgwylir y bydd pob disgybl, waeth beth fo'i amgylchiadau neu ei anghenion unigol, yn gallu sicrhau ei hawl i ddysgu ac addysgu o ansawdd uchel. Felly, mae presenoldeb rheolaidd yn hanfodol er mwyn i'n holl ddisgyblion lwyddo ac elwa o'r cyfleoedd a gyflwynir iddynt. Mae presenoldeb a phrydlondeb rheolaidd yn hanfodol er mwyn galluogi plant i gyflawni'u potensial llawn yn ystod y tymor yn yr ysgol. Mae presenoldeb rheolaidd hefyd yn sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn lleihau'r cyfleoedd i ddechrau chwarae triwant a chymryd rhan mewn gweithgareddau gwrthgymdeithasol cysylltiedig.

Cefnogir rhieni/gofalwyr a disgyblion ar lefel ysgol/darpariaeth addysg amgen i oresgyn rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd a thrwy ystod eang o strategaethau asesu ac ymyrryd. Dim ond pan fo cydweithrediad rhieni yn y broses hon naill ai'n absennol neu'n annigonol i ddatrys y broblem bresennol y dylid defnyddio sancsiynau o unrhyw fath. Mae'r sancsiwn ychwanegol hwn yn fodd o orfodi presenoldeb lle mae disgwyliad rhesymol y bydd ei ddefnyddio'n sicrhau gwelliant.

Polisi a chyhoeddusrwydd

Er mwyn sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn gwbl ymwybodol o'r ddeddfwriaeth hysbysiadau cosb, disgwylir i bob ysgol, gyda chymorth ei chorff llywodraethu, amlinellu gwybodaeth am hysbysiadau cosb yn glir yn ei pholisi presenoldeb a darparu gwybodaeth i rieni'n ysgrifenedig ar ddechrau pob blwyddyn academaidd.

O dan adran 576 o Ddeddf Addysg 1996 mae 'rhiant' yn golygu:

  • pob rhiant naturiol, p'un a ydyw'n briod ai peidio;
  • unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn neu berson ifanc, er nad yw'n rhiant naturiol;
  • unrhyw berson, er nad yw'n rhiant naturiol, sydd â gofal am blentyn neu berson ifanc;

Agweddau ymarferol cyfreithiol

  • hysbysiad cosb yw £60 os caiff ei dalu o fewn 28 niwrnod i dderbyn yr hysbysiad;
  • mae hyn yn codi i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 niwrnod ond o fewn 42 ddiwrnod i'w dderbyn;
  • os na thelir y gosb yn llawn erbyn diwedd y 42 o ddiwrnodau, rhaid i'r awdurdod lleol naill ai erlyn am y drosedd neu dynnu'r hysbysiad yn ôl os yw'n briodol.

Bydd yr achos erlyn yn ymwneud â'r drosedd o fethu sicrhau presenoldeb rheolaidd y plentyn yn yr ysgol ac nid am beidio â thalu'r ddirwy gosb. Bydd yr erlyniad yn cael ei ddwyn o dan adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.

Dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig y gellir tynnu'r hysbysiad yn ôl fel y nodir yn y côd ymddygiad hwn.

Cyflwyno hysbysiad cosb

Er mwyn osgoi cyflwyno hysbysiadau cosb dyblyg, yr ALl yn unig fydd yn gyfrifol am y trefniadau rheoli a phrosesu. Bydd gan swyddog awdurdodedig ddisgresiwn i benderfynu a ddylid cyflwyno hysbysiad cosb i un neu fwy o rieni/ofalwyr plentyn. Yr amgylchiadau penodol ym mhob achos unigol fydd y ffactor penderfynu.

Bydd yr ALl yn gweithio mewn ymgynghoriad a phartneriaeth ag ysgolion a heddweision lleol i sicrhau'r canlynol:

  • rhaid i'r plentyn fod wedi'i gofrestru fel disgybl yn yr ysgol lle mae'r pennaeth neu ei ddirprwy awdurdodedig neu ei bennaeth cynorthwyol yn gwneud y cais am yr hysbysiad cosb;
  • dim ond mewn achosion o absenoldeb anawdurdodedig y gellir cyflwyno hysbysiad cosb; dim ond ar gyfer troseddau lle mae'r ALl yn gallu ac yn barod i erlyn y dylid cyflwyno hysbysiadau. Dylai'r ALl fod yn fodlon bod digon o dystiolaeth i ddangos bod y rhiant/gofalwr wedi cyflawni trosedd o dan adran 444(1) o Ddeddf Addysg 1996;
  • bydd y defnydd o hysbysiadau cosb yn cael ei gyfyngu i uchafswm o dri hysbysiad fesul rhiant fesul disgybl mewn cyfnod treigl o 12 mis;
  • gellir cyflwyno hysbysiadau cosb ar gyfer mwy nag un plentyn mewn achosion lle ceir presenoldeb gwael gan fwy nag un disgybl mewn teulu;
  • ni fydd cyfyngiad ar nifer yr adegau y gall rhiant gael rhybudd ffurfiol o hysbysiad cosb posib;
  • os yw'r sawl sy'n derbyn hysbysiad cosb yn symud i ardal ALl arall yng Nghymru, yna mae'r hysbysiad cosb yn symud gydag ef;
  • ni ellir cyflwyno hysbysiadau cosb os yw achos cyfreithiol yn erbyn y rhiant/gofalwr o dan adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 wedi cychwyn neu wedi'i ystyried ar adeg y cais (adran 14 (b) y Rheoliadau ).

 

Amgylchiadau ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb

Dylai'r meini prawf allweddol fod fel a ganlyn:

  • pan fo disgybl wedi colli o leiaf 10 sesiwn (sef pum niwrnod ysgol) oherwydd absenoldebau anawdurdodedig yn ystod y tymor ysgol presennol ac mae hyn yn mynd â phresenoldeb cyffredinol y disgybl islaw 90% yn ystod y flwyddyn ysgol tan y pwynt hwnnw (nid oes rhaid i'r absenoldebau hyn fod yn olynol);
  • pan fo absenoldebau anawdurdodedig am o leiaf 10 sesiwn (5 niwrnod ysgol) oherwydd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol os yw'r absenoldebau hynny'n mynd â phresenoldeb cyffredinol y disgybl islaw 90% yn ystod y flwyddyn ysgol tan y pwynt hwnnw (nid oes rhaid i'r absenoldebau hyn fod yn olynol);
  • pan fo problemau prydlondeb parhaus h.y. cyrraedd ar ôl i'r gofrestr gau (côd 'U' yn y ddogfen Canllawiau Codau 2010). Ystyr parhaus at ddiben y ddogfen hon yw o leiaf 10 sesiwn y tymor o gyrraedd yn hwyr; nid oes yn rhaid iddynt fod yn olynol er y dylai fynd â phresenoldeb cyffredinol y disgybl islaw 90% yn ystod y flwyddyn ysgol tan y pwynt hwnnw;

Dylid nodi mai dim ond drwy'r post y bydd hysbysiadau cosb yn cael eu cyflwyno ac ni chânt byth eu rhoi fel cam gweithredu di-oed, er enghraifft yn ystod cyrch triwantiaid. Bydd hyn yn galluogi swyddogion i sicrhau bod yr holl ofynion tystiolaethol ar waith a bydd yn cyfyngu ar y risgiau iechyd a diogelwch i unigolion.

Cais ysgol am gyflwyno hysbysiad cosb

Lle bo ysgol wedi nodi bod cyfnod o absenoldeb heb awdurdod wedi digwydd, gellir cyflwyno cais i'r ALl am hysbysiad cosb. Gall pob pennaeth, yn flynyddol, awdurdodi'i ddirprwy neu bennaeth cynorthwyol enwebedig i wneud cais am hysbysiadau cosb.

Dylai gwaith papur yr ysgol gynnwys:

  • cadarnhad bod gwybodaeth wedi'i hanfon at bob rhiant ar ddechrau'r flwyddyn academaidd sy'n nodi'n glir y gall rhieni dderbyn hysbysiad cosb;
  • os ydych yn cyfeirio at wyliau yn ystod y tymor, yna cofnod o'r ffurflen cais am wyliau;
  • copi o ddogfen gofrestru'r disgybl;
  • cwblhau'r ffurflen gais am hysbysiad cosb.

Ni fydd hysbysiad cosb yn cael ei roi mewn perthynas â Phlant sy'n Derbyn Gofal sy'n destun ymyriad parhaus gan yr ALl.

Cais gan rieni am wyliau yn ystod y tymor (heb ei awdurdodi gan yr ysgol)

Lle bo ysgol yn gwneud cais am yr hysbysiad cosb mewn ymateb i gais gan rieni am absenoldeb anawdurdodedig (absenoldeb heb awdurdod sy'n gysylltiedig â gwyliau), ni fydd y llythyr rhybuddio ffurfiol a'r cyfnod gwella o 15 niwrnod yn gymwys.

Dim ond mewn ymateb i gais gan rieni am absenoldeb anawdurdodedig os yw'r ysgol wedi darparu'r gwaith papur angenrheidiol y bydd yr ALl yn ystyried rhoi hysbysiadau cosb y mae'r ysgol yn gwneud cais amdanynt. Dylai'r gwaith papur hwn gynnwys:

  • copi o'r wybodaeth a anfonwyd at bob rhiant yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol sy'n nodi'n glir y gall rhieni dderbyn hysbysiad cosb;
  • copi o'r ffurflen cais am wyliau a gyflwynwyd gan y rhiant;
  • tystysgrif presenoldeb neu gofrestru disgyblion perthnasol;
  • ffurflen cais am hysbysiad cosb sydd wedi'i chwblhau.

 

Y weithdrefn ar gyfer cyflwyno hysbysiad cosb

Bydd yr ALl yn ymateb i bob cais i gyflwyno hysbysiadau cosb o fewn deng niwrnod ysgol ar ôl ei dderbyn a phan fo'n fodlon bod yr holl wybodaeth berthnasol wedi'i darparu a bod cychwyniad yr hysbysiad cosb yn briodol. Yr ALl sy'n bennaf gyfrifol am ddatblygu'r protocol y bydd yr holl bartneriaid a enwir yn Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb (Cymru)) 2013 yn gweithredu oddi mewn iddo a'r ALl fydd yn cyflawni'r cyfrifoldeb hwn. Gall ceisiadau gael eu creu gan bennaeth, eu dirprwyon enwebedig, yr heddlu ac awdurdodau lleol cyfagos. Rhaid i'r ALl sicrhau na fyddai cyflwyno hysbysiad cosb yn gwrthdaro â strategaeth ymyriad cyfreithiol arall a ystyriwyd neu a gychwynnwyd o dan Ddeddf Addysg 444(1) neu 444(1A).

Mae'r weithdrefn fel a ganlyn:

  • Mae'r ALl yn cael cais am hysbysiad cosb a gwneir gwiriadau perthnasol.
  • Bydd yr ALl yn anfon rhybudd ysgrifenedig ffurfiol at y rhiant neu'r gofalwr i'w hysbysu y gall dderbyn hysbysiad cosb. Ni roddir rhybudd ar gyfer absenoldebau sy'n digwydd oherwydd gwyliau yn ystod y tymor.
  • Mae'r ALl yn gosod cyfnod o 15 niwrnod ysgol i ganiatáu i'r rhiant/gofalwr ymateb. Yn ystod y pymtheng niwrnod, byddai gan rieni/gofalwyr yr hawl i ddarparu unrhyw dystiolaeth yr hoffent ei chyflwyno i'r ysgol, gan gynnwys tystiolaeth feddygol, i ddadlau na ddylid cyflwyno'r hysbysiad cosb.
  • Mater i'r pennaeth/person enwebedig fydd penderfynu a yw'r dystiolaeth yn cael ei derbyn a'r gofrestr yn cael ei diwygio.

Er enghraifft, os yw'r absenoldebau'n cael eu hategu gan dystiolaeth feddygol, yna efallai bydd yn rhaid cywiro'r cofrestrau gan ddefnyddio'r côd priodol. Mewn achosion o'r fath, ni chaiff yr awdurdod lleol gyflwyno'r hysbysiad cosb.

Os na ddarperir tystiolaeth neu os nad yw'r pennaeth/person enwebedig yn derbyn yr absenoldebau, yna gall yr ALl gyflwyno hysbysiad cosb drwy'r post dosbarth cyntaf.

  • os gwneir y taliad o £60 o fewn 28 niwrnod i dderbyn yr hysbysiad, ni chymerir unrhyw gamau pellach.
  • os na wneir y taliad o £60, mae hyn yn cynyddu i £120 os caiff ei dalu ar ôl 28 niwrnod ond o fewn 42 ddiwrnod i dderbyn yr hysbysiad gwreiddiol;
  • os gwneir taliad o £120 o fewn 42 ddiwrnod i dderbyn yr hysbysiad gwreiddiol, ni fydd unrhyw gamau pellach;
  • os na wneir taliad yna bydd yr achos naill ai'n cael ei dynnu'n ôl neu'n arwain at erlyniad o dan adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.

 

Talu hysbysiad cosb

  • Bydd y trefniadau ar gyfer talu yn cael eu nodi ar yr hysbysiad cosb.
  • Ar ôl ei dalu, caiff atebolrwydd y rhiant/gofalwr am y cyfnod dan sylw ei gyflawni ac yna ni ellir ei erlyn wedyn o dan bwerau gorfodi eraill (adran 444 o Ddeddf Addysg 1996) am yr un cyfnod a gwmpesir gan yr hysbysiad.
  • Bydd yr ALl yn cadw'r refeniw o hysbysiadau cosb i dalu costau gorfodi. Fodd bynnag, rhaid ildio unrhyw warged i Gronfa Gyfunol Cymru.
  • Nid oes cyfleuster ar gyfer talu drwy randaliad.

 

Peidio â thalu hysbysiad cosb

Gall peidio â thalu hysbysiad cosb arwain at erlyniad o dan Adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

Nid oes hawl statudol i apelio yn erbyn cyflwyno hysbysiad cosb, ond pan fo rhiant yn herio cyflwyno hysbysiad o gosb, gall gyflwyno unrhyw gwynion i'r ALl a/neu ddewis wynebu achos yn y Llys Ynadon o dan adran 444 o Ddeddf Addysg 1996 lle gellir trafod yr holl faterion sy'n ymwneud â'u hysbysiad o gosb yn llawn.

Ar ôl ei gyflwyno, gellir tynnu hysbysiad cosb yn ôl dim ond os yw'r ALl yn fodlon ar y canlynol:

  • bod yr hysbysiad cosb wedi'i gyflwyno i'r person anghywir;
  • ni ddylai'r hysbysiad cosb fod wedi cael ei gyflwyno, h.y. os cyflwynwyd yr hysbysiad y tu allan i delerau'r côd ymddygiad hwn neu os na chyflawnwyd trosedd;
  • mae amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau ei dynnu'n ôl;
  • mae'r hysbysiad yn cynnwys gwallau pwysig.

Lle bydd hysbysiad cosb wedi'i dynnu'n ôl yn unol â'r uchod, rhoddir hysbysiad o'r tynnu'n ôl i'r sawl sy'n derbyn yr hysbysiad a bydd unrhyw swm a dalwyd yn cael ei ad-dalu i'r person a'i talodd. Ni fydd unrhyw achos yn parhau neu'n cael ei gychwyn yn erbyn derbyn yr hysbysiad ar gyfer y drosedd sy'n gysylltiedig â'r hysbysiad cosb wedi'i dynnu'n ôl a roddwyd, neu am drosedd o dan Adrannau 444 (1)/444 (1A) o Ddeddf Addysg 1996 am y drosedd sy'n deillio o'r un amgylchiadau.

Adolygu ac adrodd yn flynyddol 

Bydd yr ALl yn gwerthuso effeithiolrwydd hysbysiadau cosb yn flynyddol ac yn diwygio'i strategaeth orfodi gyffredinol fel y bo'n briodol. Bydd yr adroddiad hwn ar gael i bennaeth y gwasanaeth.

 

Cyfeiriadau

Deddf Plant 1989 - diffiniad 'rhiant';
'Rhieni' a 'Chyfrifoldeb Rhiant' (Llywodraeth Cymru 2007) Deddf Addysg 1996 - adran 444;
Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013;
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (yr hawl i addysg, Erthygl 28).

 

Close Dewis iaith