Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Coed ar safleoedd datblygu

Gall coed ar safleoedd datblygu gael eu gwarchod gan Orchmynion Cadw Coed (GCC) a/neu amodau sy'n gysylltiedig a chaniatad cynllunio.

Mae'n bwysig y caiff y coed hyn eu gwarchod yn ystod gwaith adeiladu.

Pa amodau y gellir eu hatodi i ganiatad cynllunio er mwyn gwarchod coed?

Ar gyfer unrhyw waith a wneir sy'n agos i goeden, fel arfer bydd y cyngor yn mynnu y caiff y gwaith ei wneud yn unol a Safonau Prydeinig BS5837:2012 Coed Mewn Perthynas a Dylunio, Gwaith Dymchwel a Gwaith Adeiladu - Argymhellion.

Gellir atodi amod ychwanegol i ganiatad cynllunio sy'n mynnu bod dyluniad sylfeini a chynllun adeilad yn cael ei gymeradwyo er mwyn sicrhau nad yw'r gwaith yn effeithio ar y coed na gwreiddiau coed ar y safle. Fel arfer, byddem yn atodi amodau sy'n ei wneud yn ofynnol i ymgeiswyr warchod coed (gan gynnwys gwreiddiau) yn ystod gwaith adeiladu ac am gyfnod o amser wedi cwblhau'r datblygiad neu ailblannu coed lle difrodwyd coed yn ystod y gwaith hwnnw.

A yw GCC yn rhwystro datblygu safle?

Nid yw coed GCC yn rhwystro datblygu safle yn awtomatig. Gellid gwrthod cais cynllunio pe bai'n arwain at golli coeden neu goed sy'n cynnig gwerth amwynder sylweddol i'r amgylchedd lleol. Caiff coed eu graddio yn ol Safon Brydeinig BS5837:2012 sy'n nodi'r coed y dylid eu cadw. Rydym yn ystyried effaith y cynigion datblygu ar yr holl goed, ac nid y coed a warchodir yn unig, wrth asesu ceisiadau cynllunio.

A oes angen cais GCC ar gyfer gwaith ar goed ar safleoedd datblygu?

Nid yw caniatad ychwanegol gan y cyngor yn ofynnol ar gyfer torri coed neu wneud gwaith arnynt os yw'r gwaith hwnnw'n angenrheidiol er mwyn gweithredu caniatad cynllunio llawn. Fodd bynnag, dylai datblygwyr ystyried unrhyw amodau a atodwyd i'r caniatad cynllunio o ran coed presennol a choed newydd a osodir yn eu lle. Pan wneir gwaith datblygu dan hawliau datblygu a aniateir, h.y. lle oes angen caniatad cynllunio, e.e. estyniad domestig neu adeiledd mewn gardd, byddai caniatad yn ofynnol o hyd er mwyn torri coeden a warchodir y gall gwaith datblygu effeithio arni, neu wneud gwaith arni.

Close Dewis iaith