
Compostio gartref
O safbwynt yr amgylchedd, compostio gartref yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ddelio a gwastraff organig. Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff cegin a gwastraff gardd yn ôl i'r pridd trwy gompostio.
Gellir defnyddio deunydd organig wedi'i gompostio i fwydo planhigion ac i wella ansawdd y pridd.
Y ffordd daclusaf a chyflymaf o gompostio yw defnyddio bin compost. Mae biniau compostio gartref ar gael yn y rhan fwyaf o siopau DIY/garddio.
Beth yw compostio?
Mae compostio'n broses naturiol sy'n trawsnewid gwastraff organig yn ddeunydd gwerthfawr ar gyfer yr ardd.
- Mae bacteria a ffyngau (y 'gwresogyddion'), yn defnyddio'r gwastraff meddalach fel ffynhonnell fwyd. Dylai tomen sylweddol gynhyrchu gwres a chyrraedd 60°C - o gwmpas tymheredd paned o de poeth.
- Bydd y domen yn oeri ar ôl 4-6 wythnos ac ar yr adeg hon bydd y mwydod, nadroedd cantroed, chwilod etc (y 'bwytawyr') yn dechrau bwyta'r deunyddiau caletach. Yna cynhyrchir compost tywyll, cyfoethog a ffibrog.
Pam ddylem ni gompostio?
Mae manteision compostio gartref yn cynnwys:
- Lleihau swm y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi.
- Arbedion ariannol.
- Mae'r rhan fwyaf o gompost parod yn cynnwys mawn a dynnwy o fawnogydd, gan niweidio safleoedd bywyd gwyllt pwysig.
- Mae'n gwella ansawdd y pridd ac yn ychwanegu maeth ato.
Beth dylem ni ei gompostio?
Eitemau y gellir eu compostio | Eitemau na ellir eu compostio |
---|---|
Gwastraff cegin
| Gwastraff cegin
|
Gwastraff gardd
| Gwastraff gardd
|
Eraill
| Eraill
Gellir ailgylchu rhai o'r eitemau hyn trwy'r gwasanaeth casglu ymyl y ffordd neu mewn safle ailgylchu. |
Mae ein pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref yn derbyn gwastraff gardd. Caiff y gwastraff gardd ei droi'n gompost sydd ar gael am ddim i breswylwyr Abertawe.
Os nad ydych yn gallu compostio gartref neu os nad ydych yn dymuno gwneud, mae ein Casglu ymyl y ffordd yn cynnwys casgliadau gwastraff cegin wythnosol a chasgliadau gwastraff gardd bob pythefnos.