Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl greadigol Abertawe'n gallu gwneud cais am hyd at £1,500 o gymorth newydd gan y cyngor

Gall sefydliadau diwylliannol a phobl greadigol hunangyflogedig yn sectorau celfyddydau a threftadaeth Abertawe wneud cais am hyd at £1,500 i'w helpu i gyflwyno'u gwaith i gynulleidfaoedd newydd.

Swansea at night

Mae Cyngor Abertawe wedi lansio (sylwer: ar 17 Medi) cynnig i roi cymorth i artistiaid, sefydliadau diwylliannol a threftadaeth ac ymarferwyr celf, diwylliant a threftadaeth llawrydd lleol.

Cyfanswm y gronfa yw £50,000 ac fe'i dyluniwyd i helpu'r ddinas i ddod allan o'r pandemig.

Bydd yn helpu sefydliadau a gweithwyr llawrydd unigol wrth iddynt geisio adfer o anawsterau'r deunaw mis diwethaf, drwy eu helpu i dalu costau a fyddai fel arall yn creu pwysau diangen. Gall y rhain gynnwys costau fel ffïoedd llogi, costau arddangos neu drafnidiaeth ar gyfer cyfranogwyr.

Gall y Gronfa Ddiwylliannol hon gynnig cymorth o hyd at £1,500 i gefnogi sefydliadau celf, diwylliannol a threftadaeth o Abertawe ac ymarferwyr celf, diwylliant a threftadaeth llawrydd i ailsefydlu a chryfhau eu rhaglenni creadigol. Gall helpu i gefnogi gweithgareddau fel cynyrchiadau, perfformiadau, digwyddiadau a rhaglenni ymgysylltu.

Caiff y cymorth ei weinyddu gan swyddogion yn nhîm gwasanaethau diwylliannol y cyngor.

Meddai Aelod Cabinet y Cyngor, Robert Francis-Davies, "Rydym yn cynnig y cymorth newydd hwn i'r rheini yn y sectorau diwylliannol a threftadaeth wrth iddynt barhau i weithio'n galed yn dilyn y pandemig.

"Gwyddwn fod colli incwm a mwy o bwysau nag erioed ar byrsiau cynulleidfaoedd yn golygu y bydd y gost o gyflwyno digwyddiadau neu gyngherddau'n frawychus i rai grwpiau lleol. Dyma le y gallwn ni geisio eich helpu.

"Mae cymuned ddiwylliannol Abertawe yn hanfodol ar gyfer cadw'n dinas yn gryf a'n preswylwyr yn hapus ac yn iach.

"Rydym yn gwneud popeth y gallwn i'w helpu nhw - ac eraill - i gyrraedd eu nodau newydd."

Y llynedd gwnaeth y cyngor hwyluso cynllun Llywodraeth Cymru i helpu gweithwyr llawrydd yn y sectorau diwylliannol a chreadigol drwy'r pandemig. Roedd yr arian hwnnw - a gyflwynwyd fel taliadau untro o £2,500 - wedi cefnogi ymgeiswyr a oedd yn wynebu heriau ariannol o ganlyniad i bandemig COVID-19.

I gefnogi adferiad yr economi leol o'r pandemig, mae'r cyngor, gyda phartneriaeth Adfywio Abertawe, bellach wedi datblygu cynllun adferiad economaidd ar gyfer Abertawe. Rhoddir cefnogaeth gref i sectorau twristiaeth, hamdden, digwyddiadau a lletygarwch y ddinas.

Mae'r rheini sy'n gymwys ar gyfer cymorth y Gronfa Ddiwylliannol yn cynnwys y rheini yn y sectorau celfyddydau perfformio, celfyddydau gweledol, crefft a dylunio, celfyddydau cyfunol, celfyddydau awyr agored, ysgrifennu creadigol, ffotograffiaeth, celfyddydau digidol a gwneud ffilmiau a threftadaeth.

Mae'r cyngor yn cefnogi busnesau, sefydliadau ac unigolion i fagu cadernid newydd yn yr economi leol. Mae £20m wedi'i ddodi o'r neilltu. Mae'r cymorth newydd yn rhan o hyn.

Gall grwpiau diwylliannol, sefydliadau treftadaeth a gweithwyr llawrydd nad ydynt yn bodloni'r meini prawf gysylltu â'r cyngor i gael cyngor ar ffynonellau ariannu eraill.

Caiff ceisiadau eu derbyn yn awr hyd at 31 Hydref, gyda'r cyngor yn bwriadu gwneud penderfyniadau'n brydlon.

Mae ffurflenni cais ar gael drwy e-bostio Diwylliant.Hamdden@abertawe.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth ac arweiniad: Kate.wood@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith