Toglo gwelededd dewislen symudol

Cronfa Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin 2023 / 2024

Mae'r 'Grŵp' yn cyfeirio at y grŵp sy'n cael ei gyfyngu gan yr amodau a'r telerau hyn ac yn derbyn y grant;

mae'r 'Prosiect' yn cyfeirio at y prosiect/costau y cyflwynwyd cais am y grant hwn mewn cysylltiad ag ef/â nhw, ac y cytunwyd iddo/iddynt fel a nodwyd yn ffurflen gais y grŵp (y gellir eu hamrywio yn ôl yr amodau a'r telerau);

Mae'r 'Gronfa' yn cyfeirio at Gronfa Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin a bydd yn cyfeirio at y Panel Asesu, gweithwyr awdurdodedig ac asiantiaid y cynlluniau grant lle y bo'n briodol.

1. Yn gyffredinol

a)  Rhaid defnyddio'r grant ar gyfer y Prosiect yn unig a chan y Grŵp yn unig ac yn unol â manylion y ffurflen gais yn unig (a'r amodau a'r telerau hyn).  Os yw'r cynnig yn wahanol i'r manylion yn eich cais, mae'r amrywiadau wedi'u nodi yn eich llythyr cynnig.

b)  Ni allwch wneud unrhyw newid sylweddol i'r Prosiect na'i weithredu heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan y Gronfa.

c)  Ni ddylid gwario arian grant ar asedau fel offer TG, gliniaduron, costau cyffredinol neu gostau staffio etc.

d)  Ni fydd y grant yn cynyddu os bydd gorwariant ar y Prosiect.

e)  Rhaid nodi'r grant ar wahân fel cronfa gyfyngedig yng nghyfrifon blynyddol y grŵp ac ni ddylid ei gynnwys dan gronfeydd cyffredinol.  NID oes rhaid i'r Grŵp agor cyfrif banc/cymdeithas adeiladu newydd.

f)  Rhaid gwario'r arian grant erbyn 28 Chwefror 2024 oni chytunir fel arall. Rhaid datgan unrhyw danwariant a ragwelir erbyn 24 Chwefror 2024.

g)  Os bydd y Grŵp yn gwario llai na'r grant cyfan ar y prosiect, rhaid dychwelyd y swm nas gwariwyd i'r gronfa'n syth.

h)  Nid yw dyfarnu grant ar gyfer astudiaeth dichonoldeb neu brosiect peilot yn cynrychioli unrhyw ymrwymiad gan y Gronfa i ddyfarnu grant ar gyfer unrhyw brosiect dilynol.

i)  Ni ddylai'r Grŵp, heb gytundeb ysgrifenedig y Gronfa, newid ei gyfansoddiad o ran diben, neu unrhyw newid arwyddocaol arall, yn ystod cyfnod y grant.

j)  Ni all unrhyw wariant a gafwyd cyn dyddiad y llythyr cynnig gael ei dalu o'r grant.

k)  Rhaid i'r Grŵp hysbysu'r Gronfa ynghylch unrhyw gynigion ariannu ar gyfer y Prosiect a gafwyd gan unrhyw un arall sy'n dyblygu'r arian a ddarperir gan Gronfa Grantiau Bach Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin.

l)  Nid yw'r Gronfa'n atebol am golledion a geir oherwydd unrhyw oedi wrth dalu'r grant.

m) Ni fyddai prosiectau sy'n cynnwys un unigolyn neu sydd o fudd i un unigolyn yn gymwys.

n)  Prosiectau sy'n cynnwys gweithio gyda phobl ifanc a/neu oedolion agored i niwed lle na all yr ymgeisydd ddangos bod gwiriadau addas neu gofnodion DBS yn eu lle.

o)  Prosiectau lle nad oes gan sefydliadau yswiriant perthnasol. Rhaid i bob prosiect gael yswiriant digonol, fel yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, a'r sefydliadau sy'n gyfrifol am sicrhau bod yswiriant priodol ar gyfer eu prosiect.

p)  Prosiectau lle mae'r gweithgaredd yn hybu cred mewn crefydd, athroniaeth neu blaid wleidyddol, neu gefnogaeth ar eu cyfer, neu'n darparu gwasanaethau ar sail glynu wrth grefydd, athroniaeth neu blaid wleidyddol.

q)  Ceisiadau sy'n gofyn am gyfraniadau tuag at gyllid ar gyfer costau refeniw ar ffurf costau staffio parhaus o flwyddyn i flwyddyn, er y gellir ystyried rhai costau tymor byr i alluogi dechrau prosiect.

r)  Costau adeiladau.

s)  Nid yw prosiectau sydd â chostau gweinyddol a / neu reoli uchel / anghymesur yn werth da am arian fel yr aseswyd gan y panel dyfarnu.

2. Cyhoeddusrwydd

a)  Rhaid i'r Grŵp gydnabod cefnogaeth y grant hwn yn ei adroddiad blynyddol a'r cyfrifon sy'n cynnwys cyfnod y prosiect hwn.

b)  Dylai'r Grŵp gydnabod cefnogaeth y Gronfa mewn unrhyw erthyglau, cyhoeddusrwydd neu ddatganiadau i'r wasg sy'n cyfeirio at y Prosiect.

c)  Dylai unrhyw gyhoeddiad a ariennir neu a ariennir yn rhannol gan y Gronfa gynnwys cydnabyddiaeth o gefnogaeth y Gronfa.

d)  Lle bo modd, dylid cynnwys logos eich cyngor lleol. Os nad yw hyn yn bosib am reswm da, dylai'r Grŵp gynnwys y datganiad canlynol:

'Cefnogwyd y (prosiect/grŵp/cyhoeddiad) hwn gan Dîm Cydlyniant Cymunedol Bae'r Gorllewin'

e)  Dylai'r Grŵp gadw cofnod o'r holl ddogfennau cyhoeddusrwydd, datganiadau i'r wasg, adroddiadau etc. fel tystiolaeth.

f)  Gall y Gronfa ddefnyddio enw'r Grŵp a'i brosiect yn neunydd cyhoeddusrwydd y Gronfa.  Byddwn yn sensitif i sefyllfaoedd lle bo cyfrinachedd yn fater penodol.

3. Monitro

a)  Rhaid i'r Grŵp gadw'r holl ddogfennau sy'n ymwneud â dyfarnu'r grant am o leiaf saith mlynedd.  Gall dogfennau perthnasol gynnwys anfonebau, prawf o daliad, derbynebau, datganiadau banc, taflenni amser staff, manylion cyflog ac unrhyw ddogfennaeth gefnogi arall i nodi'r holl wariant ar y prosiect.

b)  Bydd y Grŵp yn monitro llwyddiant y Prosiect yn erbyn y targedau y cytunwyd arnynt ac yn cwblhau ffurflenni monitro rheolaidd gan gynnwys ffurflen diwedd grant.  Bydd y Gronfa'n darparu'r ffurflenni.

c)  Rhaid i'r Grŵp ddarparu copïau o dderbynebau neu brawf prynu arall am gyfanswm gwerth y grant a ddyfarnwyd sy'n dangos sut mae'r grant wedi cael ei ddefnyddio. Rhaid cyflwyno'r rhain gyda'r ffurflenni monitro a gwblhawyd.

d)  Gellir gofyn i'r Grŵp ddarparu gwybodaeth ariannol ychwanegol i helpu'r Gronfa i fonitro a gwerthuso'r prosiect a'i raglen grant.

e)  Rhaid i'r grŵp fod yn ymwybodol y bydd gwybodaeth fonitro a roddir yn cael ei rhannu drwy systemau cofnodi mewnol y cyngor, gan gynnwys Craffu a'r cyngor. Mae'r rhain yn gyfarfodydd cyhoeddus felly bydd yr wybodaeth a roddir yn gyhoeddus a gall y cyfryngau ei defnyddio.

4. Talu'r grant

a)  Telir y grant drwy system BACS.

b)  Gellir talu'r grant i gyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu sy'n defnyddio enw'r Grŵp gyda dau lofnodwr awdurdodedig yn unig.

5. Pryd telir y grant?

a)  Telir grantiau refeniw yn llawn ymlaen llaw, oni bai y cytunir yn wahanol.

b)  Bydd y Gronfa'n talu'r grant ar ôl derbyn y cynnig wedi'i lofnodi.

6. Amgylchiadau y gellir atal neu ad-dalu (yn ôl disgresiwn y Gronfa)

a)  Os torrir unrhyw un o'r amodau a'r telerau hyn.

b)  Os cafodd y ffurflen gais ei chwblhau'n anonest, yn anghywir neu'n gamarweiniol.

c)  Os daw'r Grŵp i ben, ei ddiddymu neu'n fethdalwr, neu y'i rhoddir yn nwylo'r gweinyddwyr neu'r derbynnydd, neu y gwneir trefniant gyda'i gredydwyr.

d)  Os bydd y Grŵp yn methu cwblhau'r Prosiect o fewn y cyfnod amser y cytunwyd arno.

e)  Os bydd aelodau'r corff llywodraethu, gwirfoddolwyr neu staff y Grŵp yn gweithredu'n anonest neu'n esgeulus o ran eu gwaith ar gyfer y Grŵp ar unrhyw adeg yn ystod cyfnod y Prosiect.

f)  Os na fydd y Grŵp yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau cyfle cyfartal yn ei arferion cyflogaeth ac wrth gyflwyno ei wasanaethau a chael mynediad atynt.

g)  Os na fydd y grŵp yn gweithredu'n unol â'i bolisïau ef a pholisïau a roddwyd iddo.

h)  Os bydd y Grŵp yn derbyn arian dyblyg gan unrhyw ffynhonnell arall ar gyfer yr un Prosiect.

i)  Os bydd y grŵp yn methu darparu gwybodaeth fonitro pan gofynnir amdani.

7. Amodau arbennig

Mae unrhyw amodau arbennig yn cael eu nodi yn y Llythyr Cynnig Grant.

8. Hyd y cytundeb grant hwn

Bydd amodau a thelerau'r Cytundeb Grant hwn yn bodoli ac yn parhau mewn grym fel a ganlyn:

  • Cyhyd ag y bydd unrhyw gronfeydd y grant heb eu gwario.
  • Nes bod ffurflen Diwedd Grant foddhaol wedi'i derbyn.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 24 Hydref 2023