Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithio Abertawe - Arweiniad cryfderau a gwendidau

Gallwn eich helpu i weld lle mae angen gwneud newidiadau.

  • Sut ydw i'n dechrau arni?
  • Pam fod angen i mi fynd i'r afael â fy nghryfderau a'm gwendidau?
  • Sut ydw i'n dirnad fy nghryfderau a'm gwendidau?

Cyn i chi ystyried newidiadau; mae'n bwysig dechrau gyda chydnabod pa newidiadau y mae angen eu gwneud. Bydd rhaid bod yn onest er mwyn gwneud hyn. Canolbwyntiwch ar ba gryfderau a gwendidau sydd gennych ar hyn o bryd. Peidiwch â rhuthro ymlaen â phwysigrwydd gwneud newidiadau.

Rhestrwch eich cryfderau y tu allan i'r gocsen a'ch gwendidau yn y canol. Fe welwch mai eich cryfderau yw'r hyn yr ydych yn ei ystyried sy'n eich 'ysgogi' a'ch gwendidau yw'r meysydd rydych am eu gwella.

Mae angen i chi ymdrin â'ch cryfderau a'ch gwendidau er mwyn datblygu. Mae'n anodd iawn i bobl weld eu cryfderau eu hunain o ran eu gyrfa a chyfaddef y gellir dal i wella'r rhain hefyd. Mae gan bawb le i dyfu. Peidiwch ag ofni'ch gwendidau, gadewch i ni eich cefnogi i'w goresgyn.

Mae sut rydych chi'n ystyried eich cryfderau a'ch gwendidau'ch hun yn bwysig ar gyfer newid. Gyda hyfforddiant a bwriadau da, gallwn eich helpu i weld eich hun mewn ffordd fwy cadarnhaol.

Nid yw gofyn am help yn wendid. Mae ceisio gwella'ch hun yn gryfder mawr. Gallwn nodi'ch cryfderau a'ch gwendidau gyda chi a chanolbwyntio ar y rhain er mwyn i chi ddatblygu yn eich gyrfa.

Close Dewis iaith